Search Legislation

Gorchymyn Network Rail (Pont Briwet) (Caffael Tir) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2CAFFAEL A MEDDU AR DIR

Pwerau caffael

Y pŵer i gaffael tir

3.—(1Caiff Network Rail gaffael drwy orfodaeth gymaint o dir y Gorchymyn a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag y bo ei angen ar gyfer y gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hwy, a chaiff ddefnyddio unrhyw dir y mae'n ei gaffael drwy hynny at y dibenion hynny neu ar gyfer unrhyw ddibenion ategol eraill i'r ymgymeriad.

(2Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 7 (hawliau newydd yn unig i'w caffael ar rai tiroedd penodol), paragraff (8) o erthygl 8 (defnyddio tir dros dro i adeiladu gweithfeydd) ac erthygl 21 (arbediad ar gyfer y Goron).

Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965

4.—(1Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i'r graddau nad yw wedi ei haddasu gan ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn nac yn anghyson â hwy, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)fel y mae'n gymwys i brynu drwy orfodaeth y mae Deddf Caffael Tir 1981 yn gymwys iddo; a

(b)fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(2Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, fel y mae wedi ei chymhwyso gan baragraff (1), yn cael effaith fel pe bai adran 4 (sy'n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir drwy orfodaeth) a pharagraff 3(3) o Atodlen 3 (sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhoi bondiau) wedi eu hepgor.

Cymhwyso Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981

5.—(1Mae Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(1) yn gymwys fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.

(2Mae Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, fel y mae wedi ei chymhwyso gan baragraff (1), yn cael effaith gyda'r addasiadau canlynol.

(3Yn adran 3 (hysbysiadau rhagarweiniol), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) Before making a declaration under section 4 in respect to any land which is subject to a compulsory purchase order the acquiring authority must include the particulars specified in subsection (3) in a notice which is—

(a)given to every person with a relevant interest in the land with respect to which the declaration is to be made (other than a mortgagee who is not in possession); and

(b)published in a local newspaper circulating in the area in which the land is situated..

(4Yn yr adran honno, yn is-adran (2), yn lle “(1)(b)” rhodder “(1)” ac ar ôl “given” mewnosoder “and published”.

(5Yn yr adran honno, yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—

(5) For the purposes of this section, a person has a relevant interest in land if—

(a)that person is for the time being entitled to dispose of the fee simple of the land, whether in possession or in reversion; or

(b)that person holds, or is entitled to the rents and profits of, the land under a lease or agreement, the unexpired term of which exceeds one month..

(6Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer gweithredu datganiad)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “publication” mewnosoder “in a local newspaper circulating in the area in which the land is situated”; a

(b)hepgorer is-adran (2).

(7Yn adran 7 (hysbysiad deongliadol i drafod telerau) yn isadran (1)(a), hepgorer y geiriau “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.

(8Mae cyfeiriadau at Ddeddf 1965 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i cymhwysir i gaffael tir o dan erthygl 3 (y pŵer i gaffael tir).

Y pŵer i gaffael hawliau newydd

6.—(1Caiff Network Rail gaffael drwy orfodaeth y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros unrhyw dir yr awdurdodwyd ef i'w caffael o dan erthygl 3 (y pŵer i gaffael tir) ag y bo eu hangen at unrhyw ddiben y caniateir caffael y tir hwnnw o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.

(2Yn ddarostyngedig i adran 8 o Ddeddf 1965 (fel y'i hamnewidir gan baragraff 5 o Atodlen 1 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol ar gyfer creu hawliau newydd)), pan fo Network Rail yn caffael hawl dros dir o dan baragraff (1), nid yw'n ofynnol iddo gaffael rhagor o fuddiant yn y tir hwnnw.

(3Mae Atodlen 1 yn cael effaith at ddibenion addasu'r deddfiadau sy'n ymwneud â digolledu a darpariaethau Deddf 1965, o ran eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael drwy orfodaeth hawl dros dir o dan yr erthygl hon drwy greu hawl newydd.

Hawliau newydd yn unig i'w caffael ar rai tiroedd penodol

7.  Yn achos tir a bennir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer), mae pwerau Network Rail i gaffael drwy orfodaeth o dan erthygl 3(1) (y pŵer i gaffael tir) yn gyfyngedig i gaffael y cyfryw hawddfreintiau a hawliau newydd eraill yn y tir yn unol ag erthygl 6(1) (y pŵer i gaffael hawliau newydd) ag y gallai fod ei angen at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw, amddiffyn, adnewyddu a defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig.

Meddiant ar dir dros dro neu ddefnyddio tir dros dro

Defnyddio tir dros dro i adeiladu gweithfeydd

8.—(1Caiff Network Rail, mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig, fynd i'r canlynol a chymryd meddiant dros dro—

(a)o'r tir a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 3 (tir y caniateir cymryd meddiant dros dro ohono) at y diben a bennir mewn perthynas â'r tir yng ngholofn (3) o'r Atodlen honno sy'n ymwneud â'r gweithfeydd awdurdodedig; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (11), o unrhyw un o diroedd eraill y Gorchymyn na chyflwynwyd ar ei gyfer hysbysiad mynediad o dan adran 11 o Ddeddf 1965 neu na wnaed unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981.

(2Rhaid i Network Rail gyflwyno hysbysiad o'i fwriad i gael mynediad i'r tir i berchenogion a meddianwyr y tir, a hynny heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant dros dro ohono o dan yr erthygl hon.

(3Ni chaiff Network Rail, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddu ar unrhyw dir o dan yr erthygl hon ar ôl diwedd cyfnod o un flwyddyn sy'n cychwyn o'r dyddiad y cwblhawyd y gweithfeydd awdurdodedig.

(4Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i Network Rail symud pob gwaith dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi; ond nid yw'n ofynnol i Network Rail ailosod adeilad a symudwyd mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig.

(5Rhaid i Network Rail ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir a feddiannwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd drwy arfer y pwerau a roddir mewn perthynas â'r tir gan yr erthygl hon.

(6Mae unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (5), neu o ran swm y digollediad, i'w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Heb ragfarnu erthygl 19 (dim adennill ddwywaith), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw rwymedigaeth i ddigolledu o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan gyflawni unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (5).

(8Nid yw'r pwerau caffael tir drwy orfodaeth a roddir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â'r tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) heblaw fod yn rhaid peidio ag eithrio Network Rail rhag caffael hawliau newydd dros unrhyw dir a bennir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer).

(9Pan fo Network Rail yn cymryd meddiant o dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant yn y tir.

(10Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i'r defnydd dros dro o dir yn unol â'r erthygl hon i'r un graddau ag y mae'n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 4(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).

(11Nid yw paragraff (1)(b) yn awdurdodi Network Rail i gymryd meddiant dros dro—

(a)o unrhyw dŷ neu ardd sy'n eiddo i dŷ; neu

(b)o unrhyw adeilad (ac eithrio tŷ) os yw wedi ei feddiannu ar y pryd.

Defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Network Rail fynd i unrhyw dir y Gorchymyn a chymryd meddiant dros dro ohono os yw meddiant o'r fath yn rhesymol ofynnol at ddibenion cynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw weithfeydd ategol sy'n gysylltiedig â hwy, a hynny ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi Network Rail i gymryd meddiant dros dro—

(a)o unrhyw dŷ neu ardd sy'n eiddo i dŷ; neu

(b)o unrhyw adeilad (ac eithrio tŷ) os yw wedi ei feddiannu ar y pryd.

(3Rhaid i Network Rail gyflwyno hysbysiad i berchenogion a meddianwyr y tir o'i fwriad i gael mynediad i'r tir, a hynny heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant dros dro ohono o dan yr erthygl hon.

(4Ni chaiff Network Rail ond parhau â meddiant o'r tir o dan yr erthygl hon cyhyd ag y bo hynny'n rhesymol angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gwaith cynnal a chadw gweithfeydd y cymerwyd meddiant o'r tir ar ei gyfer.

(5Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i Network Rail symud yr holl weithfeydd dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi.

(6Rhaid i Network Rail ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir a feddwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd drwy arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â'r tir.

(7Mae unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu o ran swm y digollediad, i'w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(8Heb ragfarnu erthygl 19 (dim adennill ddwywaith), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw rwymedigaeth i ddigolledu o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan gyflawni unrhyw waith, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (6).

(9Pan fo Network Rail yn cymryd meddiant o dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(10Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i'r defnydd dros dro o dir yn unol â'r erthygl hon i'r un graddau ag y mae'n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 4(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).

(11Yn yr erthygl hon ystyr “y cyfnod cynnal a chadw” (“the maintenance period”) mewn perthynas â gwaith awdurdodedig yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn ar y dyddiad pryd yr agorwyd y gwaith i'w ddefnyddio.

Digolledu

Diystyru rhai buddiannau a gwelliannau penodol

10.—(1Wrth asesu'r digollediad sy'n daladwy i unrhyw berson wrth gaffael unrhyw dir oddi arno o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r tribiwnlys beidio ag ystyried—

(a)unrhyw fuddiant mewn tir; neu

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir oherwydd unrhyw adeilad a godwyd, unrhyw weithfeydd a gyflawnwyd neu unrhyw welliant neu addasiad a wnaed ar dir perthnasol,

os yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni nad oedd creu'r buddiant, codi'r adeilad, cyflawni'r gweithfeydd na gwneud unrhyw welliant neu addasiad yn rhesymol angenrheidiol, ac y gwnaethpwyd hynny gyda'r bwriad o gael digollediad neu gynyddu'r digollediad.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw'r tir a gaffaelwyd oddi wrth y person o dan sylw neu unrhyw dir arall y mae'r person hwnnw yn gysylltiedig ag ef, neu yr oedd y person hwnnw'n gysylltiedig ag ef ar adeg codi'r adeilad, cyflawni'r gwaith neu wneud y gwelliant neu'r addasiad, boed hynny'n gysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Gwrth-gyfrif am gynnydd yng ngwerth tir a gedwir

11.—(1Wrth asesu'r digollediad sy'n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr isbridd neu'r gofod awyr) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r tribiwnlys wrth-gyfrif, yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly, unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sydd ym mherchenogaeth y person hwnnw yn yr un modd a ddaw yn eiddo i'r person hwnnw o ganlyniad i adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth asesu'r digollediad sy'n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael oddi wrth y person hwnnw unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr isbridd neu'r gofod awyr) o dan erthygl 6 (y pŵer i gaffael hawliau newydd), rhaid i'r tribiwnlys wrth-gyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—

(a)unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y caffaelwyd yr hawliau newydd drosto; a

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sydd ym mherchenogaeth y person hwnnw yn yr un modd,

a ddaw yn eiddo i'r person hwnnw o ganlyniad i adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), mae Deddf 1961 yn cael effaith fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.

Atodol

Caffael rhan o rai eiddo penodol

12.—(1Yr erthygl hon sy'n gymwys yn hytrach nag adran 8(1) o Ddeddf 1965 (fel y'i cymhwysir gan erthygl 4 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965)) yn unrhyw achos—

(a)pan gyflwynir hysbysiad i drafod telerau i berson (“y perchennog”) o dan Ddeddf 1965 (fel y'i cymhwysir gan erthygl 4) mewn perthynas â thir sydd wedi ei ffurfio gan ddim ond rhan o dŷ, adeilad neu ffatri neu o dir sydd wedi ei ffurfio gan dŷ â pharc neu ardd (“y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau”) a

(b)pan gyflwynir copi o'r erthygl hon i'r perchennog gyda'r hysbysiad i drafod telerau.

(2Mewn achos o'r fath, caiff y perchennog, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n cychwyn ar y diwrnod pryd y cyflwynir yr hysbysiad, gyflwyno gwrth-hysbysiad i Network Rail yn gwrthwynebu gwerthu'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau sy'n datgan bod y perchennog yn fodlon ac yn gallu gwerthu'r cyfan (“y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad”).

(3Os na chyflwynir gwrth-hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod hwnnw, mae'n ofynnol i'r perchennog werthu'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau.

(4Os cyflwynir gwrth-hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y mater p'un ai yw'n ofynnol i'r perchennog werthu dim ond y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau yn cael ei atgyfeirio i'r tribiwnlys, oni bai fod Network Rail yn cytuno i gymryd y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad.

(5Os bydd y tribiwnlys, ar adeg atgyfeiriad o'r fath, yn penderfynu y gellir cymryd y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau—

(a)heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad; neu

(b)yn achos rhan o dir sy'n ffurfio tŷ â pharc neu ardd, heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad a heb effeithio'n ddifrifol ar amwynder a chyfleustra'r tŷ,

mae'n ofynnol i'r perchennog werthu'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau.

(6Os bydd y tribiwnlys, ar adeg atgyfeiriad o'r fath, yn penderfynu mai rhan yn unig y gellir ei chymryd o'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau—

(a)heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad; neu

(b)yn achos rhan o dir sydd wedi ei ffurfio gan dŷ â pharc neu ardd, heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad a heb effeithio'n ddifrifol ar amwynder a chyfleustra'r tŷ,

bernir bod yr hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau ar gyfer y rhan honno.

(7Os bydd y tribiwnlys, ar adeg atgyfeiriad o'r fath, yn penderfynu—

(a)na ellir cymryd y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad; ond

(b)bod y niwed sylweddol wedi ei gyfyngu i ran o'r tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad,

bernir bod yr hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau ar gyfer y tir y mae'r niwed sylweddol wedi ei gyfyngu iddo, yn ogystal â'r tir sydd eisoes yn destun yr hysbysiad, boed y tir ychwanegol yn dir y mae Network Rail wedi ei awdurdodi i'w gaffael drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn neu beidio.

(8Os bydd Network Rail yn cytuno i gymryd y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad neu os bydd y tribiwnlys yn penderfynu—

(a)na ellir cymryd dim o'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad neu, yn ôl y digwydd, heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad a heb effeithio'n ddifrifol ar amwynder a chyfleustra'r tŷ; a

(b)nad yw'r niwed sylweddol wedi ei gyfyngu i ran o'r tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad,

bernir bod yr hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau ar gyfer y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad, boed y cyfan o'r tir hwnnw yn dir y mae Network Rail wedi ei awdurdodi i'w gaffael drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn neu beidio.

(9Mewn unrhyw achos pan fernir, yn rhinwedd penderfyniad gan y tribiwnlys o dan yr erthygl hon, fod hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau am lai o dir neu ragor o dir nag a bennir yn yr hysbysiad, caiff Network Rail dynnu'n ôl yr hysbysiad i drafod telerau o fewn y cyfnod o 6 wythnos gan gychwyn ar y diwrnod pryd y gwneir y penderfyniad; ac os yw'n gwneud hynny rhaid iddo ddigolledu'r perchennog am unrhyw golled neu draul a wnaed i'r perchennog drwy roi'r hysbysiad a'i dynnu'n ôl, a'r tribiwnlys sydd i benderfynu ar hynny yn achos anghydfod.

(10Pan fo'n ofynnol i'r perchennog, o dan yr erthygl hon, werthu dim ond rhan o dŷ, adeilad neu ffatri neu ran o dir sydd wedi ei ffurfio gan dŷ â pharc neu ardd, rhaid i Network Rail ddigolledu'r perchennog am unrhyw golled a ddioddefodd y perchennog oherwydd hollti'r rhan honno yn ogystal â gwerth y buddiant a gaffaelwyd.

Tir Comin

13.—(1Mae pob hawl comin dros y tir a ddangosir â rhifau 9 a 10 ar blan y tir wedi eu diddymu, ac mae pob hawl mynediad i'r cyhoedd dros y tir hwnnw'n dod i ben ar y dyddiad pryd y mae Network Rail yn ei gaffael.

(2Mae pob hawl comin a phob hawl mynediad i'r cyhoedd dros dir comin y mae Network Rail yn cymryd meddiant dros dro ohono o dan y Gorchymyn hwn wedi eu hatal ac nid oes modd eu gorfodi cyhyd ag y bo Network Rail yn parhau â meddiant cyfreithlon o'r tir.

(3Mae gan unrhyw berson sy'n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal dros dro unrhyw hawl comin o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad sydd i'w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Diddymu neu atal hawliau preifat

14.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl preifat dros y tir a ddangosir â'r rhifau 1, 1a, 1b, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 a 12 ar blan y tir wedi eu diddymu—

(a)o'r dyddiad pryd y caffaelwyd y tir gan Network Rail, boed hynny drwy orfodaeth neu drwy gytundeb; neu

(b)ar y dyddiad mynediad ar y tir gan Network Rail o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965,

p'un bynnag sydd gynharaf.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl preifat dros y tir y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu a restrir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer) wedi eu diddymu i'r graddau y byddai eu parhad yn anghyson ag arfer hawliau a awdurdodir i'w caffael o dan y Gorchymyn hwn—

(a)o'r dyddiad pryd y mae Network Rail yn eu caffael, boed hynny drwy orfodaeth neu drwy gytundeb; neu

(b)ar y dyddiad mynediad ar y tir gan Network Rail o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965 yn unol â'r hawl,

p'un bynnag sydd gynharaf.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros unrhyw dir y Gorchymyn sy'n eiddo i Network Rail (ac eithrio'r tir a bennir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 (tir y caniateir cymryd meddiant dros dro ohono)) ac sy'n ofynnol at ddibenion y Gorchymyn hwn yn cael eu diddymu ar adeg perchnogi'r tir at unrhyw un o'r dibenion hynny gan Network Rail.

(4Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae Network Rail yn cymryd meddiant dros dro ohono o dan y Gorchymyn hwn wedi eu hatal ac nid oes modd eu gorfodi cyhyd ag y bo Network Rail yn parhau â meddiant cyfreithlon o'r tir.

(5Mae gan unrhyw berson sy'n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad sydd i'w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(6Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl tramwy y mae adran 271 neu 272 o Ddeddf 1990 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol, etc.) yn gymwys iddynt.

(7Mae paragraffau (1), (2), (3) a (4) yn cael effaith, yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw hysbysiad a roddir gan Network Rail cyn cwblhau'r broses o gaffael y tir, cyn i Network Rail ei berchnogi, cyn i Network Rail fynd arno neu cyn i Network Rail gymryd meddiant dros dro ohono nad oes un neu ragor o'r paragraffau hynny neu nad yw'r holl baragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)unrhyw gytundeb sy'n cyfeirio at yr erthygl hon (boed wedi ei wneud cyn neu ar ôl unrhyw un o'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (a) a chyn neu ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym) rhwng Network Rail a'r person y mae'r hawl tramwy dan sylw wedi ei freinio ynddo neu'n perthyn iddo.

(8Os mynegir bod unrhyw gytundeb o'r fath fel a grybwyllir ym mharagraff (7)(b) yn cael effaith hefyd er budd y rhai y mae eu teitl yn deillio o'r person neu o dan y person hwnnw y mae'r hawl tramwy dan sylw wedi ei breinio ynddo neu y mae'n berchennog arni, mae'n effeithiol mewn perthynas â'r personau y mae'r cyfryw deitl ganddynt, boed y deilliodd y teitl cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.

(9Nid yw cyfeiriad yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys hawliau comin, ond mae'n cynnwys cyfeiriad at unrhyw ymddiriedolaethau neu nodweddion y mae'r tir yn ddarostyngedig iddynt.

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael

15.—(1Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn ar y diwrnod pryd y daw'r Gorchymyn hwn i rym—

(a)nid oes unrhyw hysbysiad i drafod telerau i'w gyflwyno o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y'i cymhwysir i gaffael tir gan erthygl 4 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965); a

(b)nid oes unrhyw ddatganiad i'w weithredu o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(2) fel y'i cymhwysir gan erthygl 5 (cymhwyso Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981).

(2Mae'r pwerau a roddir gan erthygl 8 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ond nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhwystro Network Rail rhag parhau â meddiant o'r tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd i'r tir hwnnw a chymryd meddiant ohono cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources