Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 889 (Cy. 101)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

14 Ebrill 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Ebrill 2013

Yn dod i rym

10 Mai 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd(4) fel cyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(1)

1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4 ac Atodlen 4, paragraff 5; O.S. 1977/1112; ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(3)

Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(4)

OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Senedd Ewrop a'r Cyngor Rhif 1105/2012/EU (OJ Rhif L 328, 28.11.12, tt.4—6).