2013 Rhif 889 (Cy. 101)
Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 19641, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd4 fel cyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mai 2013.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20122
Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20125 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Rheoliad 3 (dehongli termau eraill)3
Yn rheoliad 3(2)—
a
ar ddiwedd is-baragraff (e), hepgorer “ac”;
b
ar ôl is-baragraff (f), mewnosoder—
ac
ff
Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd,
c
yn lle “y Cyfarwyddebau hynny”, rhodder “yr offerynnau hynny”.
Trwyddedau ar gyfer arbrofion dros dro4
Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—
Trwyddedau ar gyfer arbrofion dros dro21A
Caiff Gweinidogion Cymru esemptio drwy drwydded unrhyw berson neu ddosbarth ar berson rhag cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn at ddibenion arbrawf dros dro a drefnir o dan—
a
Erthygl 19 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys6;
b
Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd7;
c
Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant8;
ch
Erthygl 16 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr9; neu
d
Erthygl 33 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau10.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)