Trwyddedau ar gyfer arbrofion dros dro4

Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—

Trwyddedau ar gyfer arbrofion dros dro21A

Caiff Gweinidogion Cymru esemptio drwy drwydded unrhyw berson neu ddosbarth ar berson rhag cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn at ddibenion arbrawf dros dro a drefnir o dan—

a

Erthygl 19 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys6;

b

Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd7;

c

Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant8;

ch

Erthygl 16 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr9; neu

d

Erthygl 33 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau10.