- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
HADAU, CYMRU
Gwnaed
14 Ebrill 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Ebrill 2013
Yn dod i rym
10 Mai 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd(4) fel cyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mai 2013.
2. Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3(2)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (e), hepgorer “ac”;
(b)ar ôl is-baragraff (f), mewnosoder—
“ac
(ff)Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd,”; ac
(c)yn lle “y Cyfarwyddebau hynny”, rhodder “yr offerynnau hynny”.
4. Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—
21A. Caiff Gweinidogion Cymru esemptio drwy drwydded unrhyw berson neu ddosbarth ar berson rhag cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn at ddibenion arbrawf dros dro a drefnir o dan—
(a)Erthygl 19 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(6);
(b)Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(7);
(c)Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(8);
(ch)Erthygl 16 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(9); neu
(d)Erthygl 33 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(10).”
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
14 Ebrill 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245) (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 3 yn ychwanegu Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd (OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10) at y rhestr o offerynnau'r UE y mae'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae rheoliad 4 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwyddedu esemptiadau ar gyfer arbrofion dros dro a drefnir o dan unrhyw un neu ragor o'r pum Cyfarwyddeb Ewropeaidd ar farchnata hadau betys, hadau ŷd, hadau planhigion porthiant, hadau planhigion olew a ffibr a hadau llysiau, yn y drefn honno. Mae darpariaethau eraill y Cyfarwyddebau hyn eisoes yn cael eu gweithredu (o ran Cymru) gan y prif Reoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4 ac Atodlen 4, paragraff 5; O.S. 1977/1112; ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Senedd Ewrop a'r Cyngor Rhif 1105/2012/EU (OJ Rhif L 328, 28.11.12, tt.4—6).
O.S. 2012/245.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309 (OJ/SE 1965 — 66, t. 143), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu y Comisiwn 2012/37/EU (OJ Rhif L 325, 23.11.2012, tt. 13—14).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298 (OJ/SE 1965 — 66, t. 132), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu y Comisiwn 2012/37/EU (OJ Rhif L 325, 23.11.12, tt. 13—14).
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: