xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CCyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Mai 2013.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasu cyfarpar stoma” (“stoma appliance customisation”) yw addasu swp o fwy nag un cyfarpar stoma, pan fo—

(a)

y cyfarpar stoma sydd i'w haddasu wedi eu rhestru yn Rhan IXC o'r Tariff Cyffuriau;

(b)

yr addasiad yn cynnwys newidiadau yn unol â'r un fanyleb, mewn darnau unfath lluosog sydd i'w defnyddio gyda phob cyfarpar unigol; ac

(c)

yr addasiad hwnnw'n seiliedig ar fesuriadau'r claf, neu gofnod o'r mesuriadau hynny, a phan fo'n briodol, templed;

ystyr “AEE” (“EEA”) yw'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a grëwyd gan y Cytundeb AEE;

ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“national disqualification”) yw—

(a)

anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification”, a grybwyllir yn adran 115(2) a (3) o Ddeddf 2006 (anghymhwysiad cenedlaethol);

(b)

anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” a grybwyllir yn adran 159(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) (anghymhwysiad cenedlaethol);

(c)

unrhyw benderfyniad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy'n cyfateb i anghymhwysiad cenedlaethol o dan adran 115(2) a (3) o Ddeddf 2006; a

(d)

unrhyw benderfyniad arall a oedd yn anghymhwysiad cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau 2005;

ystyr “ardal reoledig” (“controlled locality”) yw ardal y penderfynodd Bwrdd Iechyd Lleol ei bod yn wledig yn unol â rheoliad 6 (ardaloedd sy'n ardaloedd rheoledig), y penderfynodd Gweinidogion Cymru yn dilyn apêl, yn unol â Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3, ei bod yn wledig, neu sy'n ardal reoledig yn rhinwedd gweithredu rheoliad 6(1);

ystyr “Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG” (“NHS Business Services Authority”) yw'r Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y. GIG (NHS Business Services Authority) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005(2);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006 (byrddau iechyd lleol);

mae i “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 25(11) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith);

ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(3) (sefydlu a chynnal cofrestr);

ystyr “Cofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol” (“General Pharmaceutical Council Register”) yw'r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010(4) (Sefydlu a chynnal y Gofrestr a mynediad i'r Gofrestr);

ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf 2006 (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);

ystyr “contract GMDdA” (“APMS contract”) yw trefniant i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, a wnaed gyda Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (gwasanaethau meddygol sylfaenol);

ystyr “contractwr cyfarpar GIG” (“NHS appliance contractor”) yw person sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 3 (paratoi a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig;

ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti mewn contract GMC, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol;

ystyr “contractwr GMC perthnasol” (“relevant GMS contractor”), mewn perthynas ag unrhyw feddyg, yw'r contractwr GMC os yw'r meddyg yn gontractwr GMC, neu, os nad yw'r meddyg yn gontractwr GMC, y contractwr GMC y cyflogir y meddyg ganddo, neu y cymerwyd y meddyg ymlaen ganddo;

ystyr “contractwr GMDdA” (“APMS contractor”) yw parti mewn contract GMDdA, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol;

ystyr “contractwr GMDdA perthnasol” (“relevant APMS contractor”), mewn perthynas ag unrhyw feddyg, yw'r contractwr GMDdA os yw'r meddyg yn gontractwr GMDdA, neu, os nad yw'r meddyg yn gontractwr GMDdA, y contractwr GMDdA y cyflogir y meddyg ganddo, neu y cymerwyd y meddyg ymlaen ganddo;

ystyr “corff cyfatebol” (“equivalent body”) yw Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, Bwrdd Iechyd yn yr Alban, Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon neu unrhyw gorff olynol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2003, Awdurdod Iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2013 ac ar ôl 30 Medi 2002 Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn Lloegr, neu mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Hydref 2002 Awdurdod Iechyd yn Lloegr;

ystyr “corff trwyddedu neu reoleiddio” (“licensing or regulatory body”) yw unrhyw gorff sy'n trwyddedu neu'n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae neu y bu person yn aelod ohono, ac y mae'n cynnwys unrhyw gorff sy'n trwyddedu neu'n rheoleiddio unrhyw broffesiwn o'r fath mewn gwlad ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

mae i “cyd-bwyllgor disgyblu” yr ystyr a roddir i “joint discipline committee” yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992(5) (dehongli);

mae i “cydsyniad amlinellol” (“outline consent”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 24(1)(a) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre);

mae i “cydsyniad rhagarweiniol” (“preliminary consent”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol);

ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar a gynhwysir mewn rhestr a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

ystyr “cyfarpar argaeledd cyfyngedig” (“restricted availability appliance”) yw cyfarpar a gymeradwywyd ar gyfer categorïau penodol o bersonau neu ddibenion penodol yn unig;

ystyr “cyfarpar penodedig” (“specified appliance”) yw—

(a)

unrhyw un o'r cyfarpar canlynol a restrir yn Rhan IXA o'r Tariff Cyffuriau—

(i)

cyfarpar cathetr (gan gynnwys ategolyn cathetr a hydoddiant cynnal),

(ii)

cyfarpar laryngectomi neu gyfarpar traceostomi,

(iii)

system ddyfrhau rhefrol,

(iv)

pwmp gwactod neu fodrwy ddarwasgu ar gyfer diffyg ymgodol, neu

(v)

bag draenio ar gyfer clwyf;

(b)

cyfarpar anymataliaeth a restrir yn Rhan IXB o'r Tariff Cyffuriau; neu

(c)

cyfarpar stoma a restrir yn Rhan IXC o'r Tariff Cyffuriau;

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw—

(a)

cyfarwyddwr corff corfforaethol; neu

(b)

aelod o'r corff o bersonau sy'n rheoli corff corfforaethol (boed yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(6) (dehongli cyffredinol);

mae “cyflogaeth” (“employment”) yn cynnwys cyflogaeth ddi-dâl a chyflogaeth o dan gontract am wasanaethau, ac mae “cyflogedig” (“employed”), “cyflogwr” (“employer”) a “cyflogi” (“employs”) i'w dehongli'n unol â hynny;

ystyr “cyffur Atodlen” (“Scheduled drug”) yw cyffur neu sylwedd arall a bennir yn Atodlen 1 neu 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (sy'n ymwneud â chyffuriau, meddyginiaethau a sylweddau eraill na chaniateir eu harchebu o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol, neu y caniateir eu harchebu mewn amgylchiadau penodol yn unig);

mae “cyffuriau” (“drugs”) yn cynnwys meddyginiaethau;

ystyr “Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council”) yw Cyngor Iechyd Cymuned a gadwyd neu a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf 2006 (cynghorau iechyd cymuned);

mae i “cymeradwyaeth mangre” (“premises approval”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 24(1)(b) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) ac y mae'n cynnwys cymeradwyaeth mangre dros dro a roddir o dan reoliad 28(13) (cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a newydd wedi i'r cydsyniad amlinellol gael effaith) neu gymeradwyaeth mangre weddilliol a roddir o dan reoliad 29(9) (cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisiau);

ystyr “cynllun GFfLl” (“LPS scheme”) yw cynllun a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 102 o Ddeddf 2006 (cynlluniau gwasanaethau fferyllol lleol);

mae i “cynllun peilot” (“pilot scheme”) yr un ystyr a roddir i'r term “pilot scheme” yn adran 92(2) o Ddeddf 2006 (Cynlluniau peilot);

ystyr “cynnwys yn amodol” (“conditional inclusion”, “conditionally include”) yw cynnwys mewn rhestr fferyllol, neu roi cydsyniad rhagarweiniol ar gyfer cynnwys mewn rhestr fferyllol, yn ddarostyngedig i amodau a osodir o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“provider of primary medical services”) yw contractwr GMC, contractwr GMDdA, neu bractis GMBILl;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw ymarferydd deintyddol;

ystyr “digwyddiadau cychwynnol” (“originating events”) yw'r digwyddiadau a arweiniodd at y gollfarn, yr ymchwiliad, yr achos cyfreithiol, yr atal dros dro, y gwrthod derbyn, y cynnwys yn amodol, y tynnu ymaith neu'r tynnu digwyddiadol a ddigwyddodd;

ystyr “enw amherchnogol” (“non-proprietary name”) yw enw sy'n un o'r canlynol, neu'n amrywiad a ganiateir o un o'r canlynol—

(a)

Enw Amherchnogol Rhyngwladol (INN);

(b)

Enw Amherchnogol Rhyngwladol Addasedig (INNM);

(c)

Enw Cymeradwy Prydeinig (BAN);

(d)

Enw Cymeradwy Prydeinig Addasedig (BANM); neu

(e)

enw cymeradwy,

ac at y diben hwn, mae i'r enwau hyn (a'u hamrywiadau caniatadwy) yr un ystyr sydd iddynt mewn rhestr o enwau y mae Comisiwn Cyffurlyfr Prydain wedi ei pharatoi ac wedi peri ei chyhoeddi, ac nad yw wedi ei disodli(7);

ystyr “enw amherchnogol priodol” (“appropriate non-proprietary name”) yw enw amherchnogol nas crybwyllir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau nac, ac eithrio pan fodlonir yr amodau ym mharagraff 42(2) o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau;

ystyr “fferyllfa” (“pharmacy”) yw—

(a)

mangre restredig o dan reoliad 3 (paratoi a chynnal rhestrau fferyllol), lle y darperir gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 80 o Ddeddf 2006; neu

(b)

mangre lle mae'r ystod o wasanaethau fferyllol a ddarperir o dan gynllun peilot fferylliaeth o dan adran 92 o Ddeddf 2006 (Cynlluniau peilot), a'r oriau pan ddarperir y gwasanaethau hynny, yn gymaradwy â fferyllfa sy'n dod o fewn is-baragraff (a);

ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person a gofrestrwyd yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976;

ystyr “fferyllydd GIG” (“NHS pharmacist”) yw—

(a)

fferyllydd cofrestredig; neu

(b)

person sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(8),

y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 3 (paratoi a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau;

ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â'i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(9)(sy'n ymwneud â chofrestrau a'r cofrestrydd), sy'n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw—

(a)

ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu gorff cyfatebol ac a ddyroddir gan ragnodydd; neu

(b)

ffurflen bresgripsiwn electronig,

sy'n galluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nad yw'n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn anelectronig” (“non-electronic prescription form”) yw ffurflen bresgripsiwn sy'n dod o fewn is-baragraff (a) o'r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn”;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn electronig” (“electronic prescription form”) yw data a grëwyd mewn ffurf electronig at y diben o archebu cyffur neu gyfarpar, ac—

(a)

sy'n dwyn llofnod electronig uwch y rhagnodydd;

(b)

a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol enwebedig drwy'r gwasanaeth TPE; ac

(c)

nad ydynt yn dynodi y caniateir darparu'r cyffur neu'r cyfarpar a archebir fwy nag unwaith;

ystyr “GMBILl” (“LHBMS”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (gwasanaethau meddygol sylfaenol);

ystyr “GMDdA” (“APMS”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir yn unol â chontract GMDdA;

ystyr “gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar” (“appliance use review service”) yw trefniadau a wneir yn unol â chyfarwyddiadau o dan adran 81 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG adolygu'r modd y mae person yn defnyddio unrhyw gyfarpar penodedig;

ystyr “gwasanaeth TPE” (“ETP service”) yw'r gwasanaeth presgripsiynau cod-bar 2-ddimensiwn sy'n rhan o'r systemau technoleg gwybodaeth mewn systemau rhagnodi a gweinyddu yng Nghymru, ac a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i drosglwyddo a chadw gwybodaeth am bresgripsiynau mewn perthynas â chleifion;

ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy'n cynnwys darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “gwasanaethau cyfeiriedig” (“directed services”) yw gwasanaethau fferyllol ychwanegol a ddarperir yn unol â chyfarwyddiadau o dan adran 81 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol);

ystyr “gwasanaethau fferyllol” (“pharmaceutical services”) yw gwasanaethau fferyllol sy'n dod o fewn adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol) ac nid ydynt yn cynnwys gwasanaethau cyfeiriedig;

ystyr “gwasanaethau fferyllol lleol” (“local pharmaceutical services”) yw gwasanaethau o fath y caniateir eu darparu o dan adran 80, neu yn rhinwedd adran 81 o Ddeddf 2006, ac eithrio gwasanaethau gweinyddu gan ymarferwyr, ac a ddarperir o dan gynllun peilot;

ystyr “gwasanaethau GIG” (“NHS services”) yw gwasanaethau a ddarperir yn rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru;

ystyr “gwasanaethau hanfodol” (“essential services”) ar gyfer fferyllwyr GIG yw'r gwasanaethau a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 4, ac ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG yr ystyr yw'r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau 3 i 11 o Atodlen 5;

ystyr “gweithiwr proffesiynol gofal iechyd” (“health care professional”) yw person, ac eithrio gweithiwr cymdeithasol, sy'n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(10);

ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir;

ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw unrhyw ddiwrnod a bennir neu a gyhoeddir yn ŵyl banc yng Nghymru yn unol ag adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(11);

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig ac mae “hysbysu” (“notify”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

mae i “lleoliad neilltuedig” (“reserved location”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 11(4) (lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy'n lleoliadau neilltuedig);

mae i “llofnod electronig” yr ystyr a roddir i “electronic signature” yn adran 7 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (llofnodion electronig a thystysgrifau cysylltiedig);

ystyr “llofnod electronig uwch” (“advanced electronic signature”) yw llofnod electronig—

(a)

sydd â chysylltiad unigryw â'r llofnodwr;

(b)

y gellir adnabod y llofnodwr oddi wrtho;

(c)

a grëwyd drwy ddefnyddio dull y gall y llofnodwr gadw dan ei reolaeth ei hunan yn unig; a

(d)

wedi ei gysylltu â'r data y mae'r llofnod yn perthyn iddynt mewn modd a fyddai'n gwneud unrhyw newid diweddarach yn y data yn ganfyddadwy;

ystyr “mangre practis” (“practice premises”), mewn perthynas â darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yw'r cyfeiriad neu'r cyfeiriadau a bennir yn y contract (yn achos contractwr GMC neu GMDdA) neu'r datganiad practis (yn achos practis GMBILl) lle y darperir gwasanaethau o dan y contract neu'r datganiad practis;

ystyr “mangre restredig” (“listed premises”) yw'r fangre sydd wedi ei chynnwys mewn—

(a)

rhestr fferyllol; neu

(b)

rhestr meddygon fferyllol yn unol â rheoliad 4 (paratoi a chynnal rhestrau meddygon fferyllol);

ystyr “meddyg” (“doctor”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig;

ystyr “meddyg fferyllol” (“dispensing doctor”) yw meddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol o dan drefniadau gyda Bwrdd Iechyd Lleol a wneir o dan reoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon);

ystyr “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth; a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â'i enw yn y gofrestr honno yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau a chyfarpar fel nyrs sy'n rhagnodi fel ymarferydd cymunedol, nyrs-ragnodydd annibynnol neu nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;

ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—

(a)

sydd â'i enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth;

(b)

sydd â nodyn neu gofnod gyferbyn â'i enw yn y gofrestr honno yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel—

(i)

nyrs-ragnodydd annibynnol, neu

(ii)

nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol; ac

(c)

sydd, mewn perthynas â pherson sy'n ymarfer yng Nghymru ar neu ar ôl 19 Gorffennaf 2010, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd ar gyfer ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;

ystyr “optometrydd-ragnodydd annibynnol” (“optometrist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy'n optometrydd a gofrestrwyd yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optometryddion 1989(12) (sy'n ymwneud â'r gofrestr o optometryddion a'r gofrestr o optegwyr fferyllol) neu'r gofrestr o optometryddion gwadd o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol a gynhelir o dan adran 8B(1)(a) o'r Ddeddf honno; a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â'i enw yn dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel optometrydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 16 mlwydd oed;

ystyr “practis GMBILl” (“LHBMS practice”) yw practis sy'n darparu GMBILl;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”) yw presgripsiwn a gynhwysir mewn ffurflen a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)

sydd naill ai—

(i)

wedi ei chynhyrchu gan gyfrifiadur ond wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu

(ii)

yn ffurflen a grëwyd mewn fformat electronig, a adwaenir drwy ddefnyddio cod rhagnodydd amlroddadwy ac a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol enwebedig drwy'r gwasanaeth TPE;

(b)

a ddyroddir neu a grëir i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol; ac

(c)

sy'n dynodi y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebir ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac yn pennu'r nifer o droeon y caniateir eu darparu;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy anelectronig” (“non-electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy'n dod o fewn is-baragraff (a)(i) o'r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy electronig” (“electronic repeatable prescription”) yw data a grëwyd mewn ffurf electronig—

(a)

sy'n dwyn llofnod electronig uwch y rhagnodydd amlroddadwy;

(b)

a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol enwebedig drwy'r gwasanaeth TPE;

(c)

sy'n dynodi y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebir fwy nag unwaith; a

(d)

sy'n pennu'r nifer o droeon y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar;

ystyr “presgripsiwn electronig” (“electronic prescription”) yw ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig;

mae i “pwyllgor disgyblu fferyllol” yr ystyr a roddir i “pharmaceutical discipline committee” yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992(13);

ystyr “Pwyllgor Fferyllol Lleol” (“Local Pharmaceutical Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir o dan adran 90 o Ddeddf 2006 (pwyllgorau fferyllol lleol);

ystyr “Pwyllgor Meddygol Lleol” (“Local Medical Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir o dan adran 54 o Ddeddf 2006 (pwyllgorau meddygol lleol);

ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw meddyg, deintydd, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol, nyrs-ragnodydd annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol neu ragnodydd atodol;

ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatable prescriber”) yw person sydd—

(a)

yn gontractwr GMC sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu o dan y telerau yn ei gontract sy'n rhoi effaith i baragraff 40 (gwasanaethau amlweinyddu) o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC;

(b)

yn gontractwr GMDdA sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu o dan y telerau yn ei gytundeb sy'n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy'n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC; neu

(c)

yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen gan—

(i)

contractwr GMC sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu o dan y telerau mewn contract sy'n rhoi effaith i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC,

(ii)

contractwr GMDdA sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu o dan y telerau mewn cytundeb sy'n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy'n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC, neu

(iii)

Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol mewn practis GMBILl sy'n darparu presgripsiynu amlroddadwy yn unol â darpariaeth mewn cyfarwyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â GMBILl, sy'n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC;

ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw—

(a)

fferyllydd cofrestredig y mae nodyn gyferbyn â'i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976 sy'n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

(b)

person y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac y mae nodyn gyferbyn â'i enw yn y Gofrestr honno sy'n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;

(c)

person—

(i)

sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o'r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(14) (sefydlu a chynnal cofrestr) sy'n ymwneud â chiropodyddion a phodiatryddion, ffisiotherapyddion neu radiograffwyr, a

(ii)

y mae nodyn gyferbyn â'i enw yn y gofrestr honno sy'n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol; neu

(d)

optometrydd y mae nodyn gyferbyn â'i enw yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 neu 8B(1)(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 sy'n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(15), a oedd mewn grym yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 2005(16) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Medi 2012;

ystyr “Rheoliadau Ffioedd” (“Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(17);

ystyr “Rheoliadau GMC” (“GMS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(18);

ystyr “Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl” (“Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(19);

ystyr “Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau” (“Prescription of Drugs Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc) (Cymru) 2004(20);

ystyr “rhestr” (“list”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu'n wahanol, yw rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol;

ystyr “rhestr berthnasol” (“relevant list”) yw—

(a)

rhestr fferyllol neu restr gyfatebol; neu

(b)

rhestr, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, o gyflawnwyr cymeradwy neu ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol neu offthalmig;

ystyr “rhestr cleifion” (“patient list”) yw rhestr o gleifion a gedwir yn unol â pharagraff 14 (rhestr o gleifion) o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC neu, mewn perthynas â chontractwr GMDdA neu bractis GMBILl, yn unol â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006;

ystyr “rhestr cleifion berthnasol” (“relevant patient list”), mewn perthynas â meddyg sy'n gontractwr GMC neu'n gontractwr GMDdA (neu sy'n gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol mewn cwmni sy'n gontractwr o'r fath), yw'r rhestr cleifion ar gyfer y contractwr hwnnw, neu, pan nad yw'r meddyg yn gontractwr, yw'r rhestr cleifion ar gyfer y contractwr GMC neu'r contractwr GMDdA y cyflogir y meddyg ganddo neu y cymerwyd y meddyg ymlaen ganddo neu ar gyfer y practis GMBILl y mae'r meddyg yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ynddo;

ystyr “rhestr cyflawnwyr meddygol” (“medical performers list”) yw rhestr o feddygon, a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(21);

ystyr “rhestr fferyllol” (“pharmaceutical list”) yw rhestr y mae'n ofynnol bod Bwrdd Iechyd Lleol yn ei pharatoi a'i chynnal o dan reoliad 3 (paratoi a chynnal rhestrau fferyllol);

ystyr “rhestr gyfatebol” (“equivalent list”) yw rhestr a gedwir gan gorff cyfatebol;

ystyr “rhestr meddygon fferyllol” (“dispensing doctor list”) yw rhestr y mae'n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ei pharatoi a'i chynnal o dan reoliad 4 (paratoi a chynnal rhestrau meddygon fferyllol);

ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen, a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig i alluogi fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i dderbyn tâl am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat gofynnol, ac—

(a)

a gynhyrchir gan gyfrifiadur ac nas llofnodir gan ragnodydd amlroddadwy;

(b)

sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig penodol ac yn cynnwys yr un dyddiad â'r presgripsiwn hwnnw;

(c)

a ddyroddir fel un o ddilyniant o ffurflenni sydd â'u nifer yn hafal i nifer y troeon y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn amlroddadwy anelectronig; a

(d)

sy'n pennu rhif i ddynodi ei safle yn y dilyniant y cyfeirir ato yn is-baragraff (c);

ystyr “swp-ddyroddiad cysylltiedig” (“associated batch issue”), mewn perthynas â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, yw un o'r swp-ddyroddiadau sy'n ymwneud â'r presgripsiwn hwnnw ac yn cynnwys yr un dyddiad â'r presgripsiwn hwnnw;

mae i “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 41 (y Tariff Cyffuriau a chydnabyddiaeth ariannol i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG);

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys yr Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(22);

ystyr “tynnu digwyddiadol” (“contingent removal”) yw tynnu oddi ar restr fferyllol yn ddigwyddiadol, o fewn yr ystyr a roddir i “contingent removal” gan adran 108 o Ddeddf 2006 (tynnu digwyddiadol) ac mae “tynnu yn ddigwyddiadol” (“contingently remove”) i'w ddehongli'n unol â hynny; ac

mae i “uwcharolygydd” yr un ystyr a roddir i “superintendent” yn adran 71 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(23) (cyrff corfforaethol).

(2Os cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol ac os newidir y penderfyniad hwnnw yn dilyn apêl, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'r cyfeiriad at y penderfyniad hwnnw i'w ddehongli fel cyfeiriad at y penderfyniad fel y'i newidiwyd yn dilyn yr apêl.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr y term “gwasanaethau fferyllol” (“pharmaceutical services”) mewn perthynas â meddyg yw'r gwasanaethau hynny y cyfeirir atynt yn rheoliad 20; a

(b)ystyr y term “gwasanaethau gweinyddu” (“dispensing services”), mewn perthynas â meddyg neu gontractwr GMC yw unrhyw wasanaeth cyfatebol a ddarperir, nid fel gwasanaethau fferyllol, ond o dan y telerau mewn contract GMC sy'n rhoi effaith i baragraffau 47 i 51 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC.

(4Ac eithrio pan ddarperir yn benodol i'r gwrthwyneb, caniateir rhoi neu anfon unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei rhoi neu ei hanfon i berson neu gorff o dan y Rheoliadau hyn drwy ddanfon y ddogfen i'r person neu, yn achos corff, i ysgrifennydd neu reolwr cyffredinol y corff hwnnw, neu drwy anfon y ddogfen mewn llythyr rhagdaledig wedi ei gyfeirio at y person hwnnw neu, yn achos corff, at ysgrifennydd neu reolwr cyffredinol y corff hwnnw, yn ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy'n hysbys, ac mae danfon y ddogfen yn cynnwys ei hanfon yn electronig i gyfeiriad electronig a hysbyswyd gan y person hwnnw at y diben hwnnw.

(5Pan fo'r term “community practitioner nurse prescriber” yn ymddangos yn Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(24) neu yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, rhaid ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

2006 p. 41. Mae adran 159 wedi ei diwygio gan O.S. 2010/22.

(2)

O.S. 2005/2414 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/632.

(3)

O.S.2002/253; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/1182.

(4)

O.S. 2010/231.

(5)

O.S. 1992/664 . Mewnosodwyd y diffiniad o “joint discipline committee” gan O.S. 1996/703.

(6)

2000 p.7. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communication” gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), Atodlen 17, paragraff 158.

(7)

Y prif gasgliad o safonau ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol a sylweddau fferyllol y DU yw The British Pharmacopoeia 2013, sydd ar gael yn www.pharmacopoeia.co.uk.

(10)

2002 p.17. Diwygiwyd adran 25 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

(11)

1971 p.80.

(12)

1989 p.44; diwygiwyd gan O.S. 2005/848.

(13)

O.S. 1992/664 . Mewnosodwyd y diffiniad o “pharmaceutical discipline committee” gan O.S. 1996/703.

(14)

O.S. 2002/254. Diwygiwyd erthygl 5 gan O.S. 2009/1182. Mae'r Gorchymyn wedi ei ailenwi gan adran 213(4) a (6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7)

(15)

O.S. 1992/662. Yr offerynnau perthnasol sy'n diwygio yw O.S.2007/205 (Cy.19), O.S. 2009/1491 (Cy.144), O.S. 2010/868 (Cy.90), O.S. 2010/1648 (Cy.156) ac O.S. 2011/2907 (Cy.311).

(16)

O.S. 2005/641. Dirymwyd gan O.S. 2012/1909 .

(18)

O.S. 2004/478 (Cy.48). Mae'r offerynnau sy'n diwygio yn cynnwys O.S. 2004/1017 (Cy.114), O.S. 2006/358 (Cy.46), O.S. 2006/945 (Cy.94), O.S. 2007/121 (Cy.11), O.S. 2007/205 (Cy.19), O.S. 2008/1329 (Cy.138), O.S. 2008/1425 (Cy.147), O.S. 2010/729 (Cy.70), O.S. 2010/1647 (Cy.155) ac O.S. 2011/704 (Cy.108).

(20)

O.S. 2004/1022 (Cy.119) a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/366 (Cy.32), O.S. 2009/1838 (Cy.166) ac O.S. 2009/1977 (Cy.176).

(22)

2007 p.15 .

(23)

Amnewidiwyd adran 71 gan adran 28 o Ddeddf Iechyd 2006 (p.28).

(24)

S.I. 2012/1916.