Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 5:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 5LL+CCeisiadau gan feddygon am eu cynnwys mewn rhestrau meddygon fferyllol neu ddiwygio rhestrau meddygon fferyllol

Trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygonLL+C

20.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniant gyda meddyg sy'n dod o fewn paragraff (8) er mwyn i'r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf sydd wedi ei gynnwys ar restr cleifion y meddyg neu restr cleifion darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sy'n cyflogi'r meddyg neu wedi ei gymryd ymlaen, os bodlonir yr amodau canlynol—

(a)byddai'n ddifrifol o anodd i'r claf gael unrhyw gyffuriau neu gyfarpar angenrheidiol o fferyllfa, oherwydd pellter neu foddion cyfathrebu annigonol a bodlonir yr amodau ym mharagraff (2);

(b)bod y claf yn preswylio mewn ardal reoledig, a hynny'n bellter o fwy nag 1.6 cilometr o unrhyw fferyllfa, a bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff (4); neu

(c)bod y claf yn preswylio mewn ardal reoledig, a phenderfynwyd bod unrhyw fferyllfa, sydd o fewn pellter o 1.6 cilometr i'r man lle mae'r claf yn byw, mewn lleoliad neilltuedig ac na newidiwyd y penderfyniad hwnnw mewn apêl na thrwy benderfyniad pellach, a bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff (4).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)bod y claf wedi gwneud cais mewn ysgrifen i'r Bwrdd Iechyd Lleol am i'r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo, am y rhesymau a bennir ym mharagraff (1)(a); a

(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni y byddai'n ddifrifol o anodd i'r claf gael unrhyw gyffuriau neu gyfarpar angenrheidiol am y rhesymau hynny.

(3Wrth i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniant gyda meddyg o dan baragraff (1)(a) i'r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o fangre practis, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi i'r meddyg mewn ysgrifen, gyfnod rhesymol o rybudd o'r dyddiad y bydd y trefniant yn cael effaith, oni fydd y meddyg wedi bodloni'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)nad yw'r meddyg fel arfer yn darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion; neu

(b)na fyddai'n ddifrifol o anodd i'r claf gael cyffuriau a chyfarpar o fferyllfa oherwydd pellter neu foddion cyfathrebu annigonol.

(4Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c) yw—

(a)bod cydsyniad amlinellol wedi ei roi i'r meddyg neu i'r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sy'n cyflogi'r meddyg neu wedi ei gymryd ymlaen;

(b)bod cymeradwyaeth mangre wedi ei rhoi mewn perthynas â'r fangre y bydd y meddyg yn darparu gwasanaethau fferyllol ohoni i'r claf hwnnw;

(c)bod y cydsyniad amlinellol a'r gymeradwyaeth mangre wedi cael effaith o dan reoliad 25 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith); a

(d)bod unrhyw amodau a osodir o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â rhoi cydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre yn rhai sy'n caniatáu gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan y meddyg hwnnw i gleifion o dan baragraff (1)(b) neu (c).

(5Mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) at gydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre ac amodau a osodir yn cynnwys cyfeiriadau at rai a oedd wedi cael effaith o dan Reoliadau 1992.

(6Caiff meddyg, y gwnaed trefniant gydag ef i ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan y rheoliad hwn, gyda chydsyniad y claf, yn hytrach na darparu'r cyffuriau neu gyfarpar ei hunan, archebu'r cyffuriau neu gyfarpar drwy ddyroddi presgripsiwn i'r claf.

(7Os oedd trefniant bod meddyg yn darparu gwasanaethau fferyllol i glaf wedi cael effaith yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y trefniant hwnnw'n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan y rheoliad hwn, hyd yn oed os na fodlonir yr amodau ym mharagraff (4).

(8Mae meddyg yn dod o fewn y paragraff hwn os yw—

(a)yn gontractwr GMC neu'n gontractwr GMDdA;

(b)wedi ei gymryd ymlaen neu'n gyflogedig gan gontractwr GMC neu gontractwr GMDdA; neu

(c)wedi ei gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at y diben o ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol i bractis GMBILl.

(9Caiff meddyg apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (3). Rhaid gwneud yr apêl mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad o'r penderfyniad at y meddyg, a rhaid i'r apêl gynnwys datganiad cryno o seiliau'r apêl.

(10Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael unrhyw hysbysiad o apêl o dan baragraff (9), anfon copi o'r hysbysiad hwnnw at y Bwrdd Iechyd Lleol a'r contractwr GMC neu'r contractwr GMDdA perthnasol, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol a'r contractwr GMC neu'r contractwr GMDdA perthnasol, o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru gopi o'r hysbysiad o apêl, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(11Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl yn unol â pharagraff (9) ym mha bynnag fodd y gwelant yn briodol, gan gymryd i ystyriaeth y materion rhagarweiniol yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(12Rhaid i Weinidogion Cymru, wedi iddynt benderfynu unrhyw apêl o dan baragraff (9), roi hysbysiad o'u penderfyniad mewn ysgrifen, ynghyd â'r rhesymau am y penderfyniad, i'r apelydd, i'r Bwrdd Iechyd Lleol ac i'r contractwr GMC neu'r contractwr GMDdA perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 20 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Gwasanaethau angenrheidiol ar gyfer cleifion dros droLL+C

21.  Caiff meddyg, sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion ar restr cleifion drwy drefniant a wneir gyda Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), ddarparu gwasanaethau fferyllol angenrheidiol i berson sydd wedi ei dderbyn gan y meddyg fel claf dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 21 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer rhoi triniaeth ar unwaith neu eu rhoi neu eu defnyddio ar y claf gan y meddyg ei hunanLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff meddyg y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr meddygol—

(a)darparu i glaf unrhyw gyfarpar neu gyffur, nad yw'n gyffur Atodlen, pan fo angen darpariaeth o'r fath ar gyfer trin y claf hwnnw ar unwaith, cyn y gellir cael darpariaeth rywfodd arall; a

(b)darparu i glaf unrhyw gyfarpar neu gyffur, nad yw'n gyffur Atodlen, a roddir i'r claf hwnnw, neu a osodir ar y claf hwnnw, gan y meddyg ei hunan.

(2Ni chaiff meddyg ddarparu cyfarpar argaeledd cyfyngedig ac eithrio ar gyfer person neu ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 22 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Terfynu trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygonLL+C

23.—(1Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi cyfnod rhesymol o rybudd mewn ysgrifen i feddyg, i'r perwyl y bydd rhaid i'r meddyg roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan drefniant yn unol â rheoliad 20 os nad yw'r claf hwnnw bellach yn dod o fewn rheoliad 20(1)(a), (b) neu (c).

(2Mae hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)—

(a)yn ddarostyngedig i unrhyw ohirio neu derfynu'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol i'r person hwnnw gan y meddyg hwnnw, a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 2, paragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 11(6); a

(b)rhaid peidio â'i roi—

(i)os oes unrhyw apêl yn yr arfaeth yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol i ohirio gwneud, neu derfynu'r trefniant; neu

(ii)pan fo paragraff 5 o Atodlen 2 yn gymwys

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 23 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangreLL+C

24.—(1Rhaid i feddyg, sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu a gymerwyd ymlaen neu a gyflogir gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol ac sy'n dymuno gwneud trefniant gyda Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol i gleifion o dan reoliad 20(1)(b) neu (c) (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), gyflwyno cais mewn ysgrifen i'r Bwrdd Iechyd Lleol, am—

(a)cydsyniad, gan bennu'r ardal y mae'r meddyg yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi (“cydsyniad amlinellol”); a

(b)cymeradwyaeth i unrhyw fangre practis y mae'r meddyg yn dymuno gweinyddu ohoni (“cymeradwyaeth mangre”).

(2Ni chaiff meddyg, y mae ganddo gydsyniad amlinellol sydd wedi cael effaith o dan reoliad 25 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith), gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ac eithrio mewn perthynas ag—

(a)mangre practis ychwanegol y bwriedir darparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu

(b)mangre practis y mae'r meddyg yn dymuno adleoli iddi o fangre restredig.

(3Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 1.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddychwelyd cais os nad yw'r cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (3).

(5O ran y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhaid iddo wrthod cydsyniad amlinellol mewn perthynas ag unrhyw ran o'r ardal a bennir yn y cais nad yw mewn ardal reoledig, neu sydd o fewn 1.6 cilometr i unrhyw fferyllfa;

(b)rhaid iddo wrthod cymeradwyaeth mangre mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir yn y cais sydd o fewn 1.6 cilometr i unrhyw fferyllfa;

(c)rhaid iddo wrthod cais os yw o'r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais (y “prawf niweidio”);

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (7) a phan nad yw cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, rhaid iddo wrthod y cais oni fodlonir ef fod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol, gan bersonau a gynhwysir mewn rhestr, o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny, yn yr ardal y gwnaeth y meddyg gais am gydsyniad amlinellol mewn perthynas â hi; ac

(e)pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, caiff wrthod un neu ragor ohonynt (hyd yn oed rhai y byddid wedi eu caniatáu pe baent wedi eu penderfynu ar eu pen eu hunain) os yw nifer y ceisiadau yn peri y byddai caniatáu pob un ohonynt neu fwy nag un ohonynt yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig.

(6Caiff unrhyw wrthodiad o gais, fel a amlinellir yn is-baragraffau (a) i (e) uchod, ymwneud â'r cyfan neu unrhyw ran o'r ardal sydd o fewn yr ardal reoledig neu, yn ôl fel y digwydd, yr holl fangreoedd neu rai o'r mangreoedd y gofynnir am gymeradwyaeth ar eu cyfer.

(7Os, wrth benderfynu cais blaenorol a wnaed o dan y rheoliad hwn, gwrthodwyd y cais hwnnw o dan baragraff (5)(d), rhaid peidio ag ystyried y cwestiwn o dan baragraff (5)(d) drachefn mewn perthynas â'r un ardal a bennwyd yn y cais blaenorol—

(a)am gyfnod o dair blynedd, sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y penderfynwyd y cais blaenorol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu, os apeliwyd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, dyddiad y penderfyniad ar yr apêl; oni bai

(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod newid sylweddol wedi digwydd yn yr amgylchiadau mewn perthynas â'r ardal y gwnaeth y meddyg gais am gydsyniad amlinellol mewn perthynas â hi, er pan ystyriwyd ddiwethaf y cwestiwn o dan baragraff (5)(d).

(8Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion penodol a gynhwysir yn y Rhan hon, mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 2 yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rhan hon.

(9Mae cais o dan y rheoliad hwn yn cael ei ganiatáu ar ba bynnag ddyddiad yw'r diweddaraf o—

(a)30 diwrnod ar ôl anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 2; neu

(b)os gwneir apêl yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad gan Weinidogion Cymru o'u penderfyniad ar yr apêl o dan baragraff 8 o Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 24 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaithLL+C

25.—(1Wrth ganiatáu cais a wneir o dan reoliad 24 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu ar ba ddyddiad y bydd y cydsyniad amlinellol a'r gymeradwyaeth mangre yn cael effaith.

(2Os nad oes ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y'u diffinnir ym mharagraff (11)), mae'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith ar y dyddiad y caniateir y cais.

(3Os oes ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth ar y diwrnod cyn y caniateir y cais o dan reoliad 24, rhaid penderfynu'r dyddiad y bydd y cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith yn unol â pharagraffau (4) i (9).

(4Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn perthynas â chais y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, hysbysu'r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24, a Gweinidogion Cymru os yw'r cais yn destun apêl, ynghylch—

(a)unrhyw geisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth;

(b)tynnu'n ôl unrhyw geisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth;

(c)y dyddiad dros dro (fel y'i diffinnir ym mharagraff (11)) pan gaiff y meddyg ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y dylai'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre gael effaith; a

(d)cais y meddyg am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym os dechreuir darparu gwasanaethau fferyllol, cyn y dyddiad dros dro, o fangre a oedd yn destun cais am fferyllfa yn yr arfaeth sydd wedi ei ganiatáu;

(5Ar y dyddiad dros dro, neu mor fuan ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad dros dro, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24—

(a)y caiff y meddyg, o fewn tri mis ar ôl yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn iddo benderfynu a ddylai'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre gael effaith; a

(b)bod rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu'r cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac yn unol â pharagraffau (6) a (7).

(6Os yw'r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hi, ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), yn fangre practis, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y bydd y cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â'r fangre honno yn cael effaith ar y dyddiad hwnnw.

(7Os nad yw'r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hi, ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), yn fangre practis, bydd y cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym.

(8Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (5) i'r ceisydd ac i'r personau hynny yr oedd yn ofynnol, o dan baragraff 8 o Atodlen 2, roi hysbysiad iddynt o'r cais o dan reoliad 24.

(9Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y bydd cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym yn rhinwedd paragraff (7) neu yr estynnir y dyddiad dros dro o dan baragraff (11), caiff y meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24 apelio i Weinidogion Cymru.

(10Yn yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (9), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan I o Atodlen 3 a'r paragraffau canlynol o Atodlen 3 yn gymwys:

(a)6(4)(b) ac (c);

(b)7(2) a (4); ac

(c)8,

fel pe bai'r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(2) o Atodlen 3.

(11Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yw cais a wneir o dan reoliad 8 (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol) neu reoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol)—

(a)

pan fo'r fangre a bennir yn y cais hwnnw o fewn 1.6 cilometr i'r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre ar ei chyfer; a

(b)

sydd naill ai—

(i)

wedi ei wneud ond eto heb ei benderfynu, gan gynnwys yn dilyn apêl, neu

(ii)

wedi ei ganiatáu fel y diffinnir “caniatawyd” yn rheoliad 17 (gweithdrefn yn dilyn caniatáu cais) ond darparu gwasanaethau fferyllol o'r fangre honno heb gychwyn eto; ac

(c)

ystyr “dyddiad dros dro” (“provisional date”) yw'r diwrnod ar ôl diwedd cyfnod o un flwyddyn, neu pa bynnag gyfnod pellach o ddim mwy na thri mis a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol (a rhaid iddo hysbysu'r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24 o unrhyw estyniad) sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y caniateir y cais yn unol â rheoliad 24(9).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 25 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rymLL+C

26.—(1Bydd cydsyniad amlinellol yn peidio â chael effaith—

(a)os na fydd darparu gwasanaethau gweinyddu wedi cychwyn o fewn deuddeng mis wedi i gydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre gael effaith o dan reoliad 25 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith);

(b)pan fo mwy na 12 mis wedi mynd heibio er pan ddarparwyd gwasanaethau gweinyddu ddiwethaf;

(c)pan fo practisiau'n cyfuno ac ar ôl cyfuno nid oes mangre practis sydd â chymeradwyaeth mangre; neu

(d)pan fo cydsyniad amlinellol wedi mynd yn ddi-rym o dan reoliad 25.

(2Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith mewn perthynas ag—

(a)mangre restredig sydd, yn barhaol, wedi peidio â bod yn fangre practis;

(b)mangre restredig nas defnyddiwyd ar gyfer gweinyddu gan unrhyw feddyg a awdurdodwyd i weinyddu o'r fangre honno am gyfnod o chwe mis, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)mangre restredig lle mae'r meddyg, y rhestrwyd y fangre o dan ei enw yn y rhestr meddygon fferyllol, wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol fod yr holl feddygon sydd ag awdurdod i weinyddu o'r fangre honno wedi rhoi'r gorau i wneud hynny;

(d)mangre restredig lle nad oes meddyg sydd â chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â'r fangre honno yn weddill ar y rhestr meddygon fferyllol; neu

(e)mangre restredig y caniatawyd cymeradwyaeth mangre iddi o dan reoliad 29(3), os nad oes cyfuno practisiau yn digwydd o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 29(7).

(3Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith pan yw'r cydsyniad amlinellol perthnasol yn peidio â chael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 26 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cymeradwyaeth mangre: newid mangre cyn bo cydsyniad amlinellol yn cael effaithLL+C

27.—(1Pan fo—

(a)cydsyniad amlinellol wedi ei roi ond heb ddod i rym eto o dan reoliad 25 (rhoi cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn grym); a

(b)cyn y dyddiad dros dro a ddiffinnir yn rheoliad 25(11), y meddyg yn bwriadu newid y fangre practis y dymuna ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni,

caiff y meddyg wneud cais ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol, gan ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 1, am i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â'r fangre newydd, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (2).

(2Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni mai adleoliad bach yw'r newid mangre, caiff ganiatáu'r gymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre newydd, ond os nad yw wedi ei fodloni felly, rhaid gwrthod cymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre newydd.

(3Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau hynny yr oedd yn ofynnol rhoi hysbysiad iddynt o'r cais a wnaed o dan reoliad 24 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) o'i benderfyniad o dan baragraff (2).

(4Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2).

(5Yn yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (4), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan I o Atodlen 3 a'r paragraffau canlynol o Atodlen 3 yn gymwys:

(a)6(4)(b) ac (c);

(b)7(2) a (4); ac

(c)8,

fel pe bai'r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(2) o Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 27 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a newydd wedi i'r cydsyniad amlinellol gael effaithLL+C

28.—(1Caiff meddyg y mae ganddo gydsyniad amlinellol sydd wedi cael effaith, ac sy'n dymuno cael cymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre yn ychwanegol at y fangre honno y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre ar ei chyfer (“mangre ychwanegol”) wneud cais ysgrifenedig, gan ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 1, i bob un o'r Byrddau Iechyd Lleol priodol, a bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i gais am fangre ychwanegol gael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â rheoliad 24 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a rheoliad 25 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith).

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)y “Byrddau Iechyd Lleol priodol” (“appropriate Local Health Boards”) yw'r rheini sy'n cynnal y rhestrau meddygol fferyllol y cynhwysir ynddynt y meddyg sy'n gwneud y cais; a

(b)y “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” (“relevant Local Health Board”) yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir y fangre ychwanegol yn ei ardal.

(4Caiff meddyg sy'n dymuno cael cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangre (“mangre newydd”) lle mae'r meddyg yn dymuno gweinyddu, yn lle mangre restredig, wneud cais, gan ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 1, i bob un o'r Byrddau Iechyd Lleol priodol, a bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â pharagraffau (5) a (6).

(5Yn achos cais am fangre newydd, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol roi hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 2 a rhaid i gynnwys yr hysbysiad gydymffurfio â pharagraff 10 o'r Atodlen honno.

(6Yn achos cais am fangre newydd, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol—

(a)caniatáu'r cais os yw wedi ei fodloni—

(i)ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, a

(ii)na fyddai caniatáu'r cais yn achosi newid sylweddol yn y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu mewn unrhyw ran o'r ardal reoledig y lleolir y fangre newydd ynddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, penderfynu'r cais fel cais am gymeradwyaeth mangre a wneir o dan reoliad 24(1)(b).

(7Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, oni fydd ganddo reswm da dros beidio â gwneud hynny, wrthod cais o dan baragraff (1) neu (4) os oes cais a wnaed gan y meddyg wedi ei ganiatáu o dan baragraff (6)(a) yn ystod y deuddeng mis cyn cyflwyno'r cais o dan baragraff (1) neu (4).

(8Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (2) neu baragraff (6)(b) i'r personau hynny y mae'n ofynnol rhoi hysbysiad o'r cais iddynt yn unol â rheoliad 24 a pharagraff 8 o Atodlen 2.

(9Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (6)(a) i'r personau hynny y mae'n ofynnol rhoi hysbysiad iddynt yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 2.

(10Caiff y personau a restrir ym mharagraff 6(2) o Atodlen 3 apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2), (6)(a) neu (6)(b).

(11Yn ddarostyngedig i baragraff (12) bydd y gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre ychwanegol neu newydd yn cael effaith o ddyddiad yr hysbysiad o ganiatáu'r gymeradwyaeth mangre, sef—

(a)os na wneir apêl yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw o dan baragraff (8) neu baragraff (9); neu

(b)os gwneir apêl o'r fath, y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o'u penderfyniad ar yr apêl honno.

(12Pan fo—

(a)cymeradwyaeth mangre wedi ei roi mewn perthynas â mangre ychwanegol; a

(b)mewn perthynas â'r fangre y rhoddir y gymeradwyaeth ar ei chyfer, ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y'u diffinnir yn rheoliad 25(11)), ar y dyddiad y rhoddwyd y gymeradwyaeth,

y dyddiad y bydd y gymeradwyaeth mangre yn cael effaith fydd y diwrnod ar ôl diwedd cyfnod o un flwyddyn, neu pa bynnag gyfnod pellach (o ddim mwy na thri mis) y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da, ar ôl penderfynu yn derfynol unrhyw gais am fferyllfa yn yr arfaeth.

(13Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cymeradwyaeth mangre dros dro i feddyg sydd â chydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangre ychwanegol neu fangre newydd os yw'r Bwrdd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus gwneud hynny er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau fferyllol yn yr ardal a wasanaethir gan y fangre ychwanegol neu'r fangre newydd, ac adnewyddu unrhyw gymeradwyaeth dros dro o'r fath a roddwyd, er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol, ac os yw'r Bwrdd yn gwneud hynny rhaid iddo—

(a)hysbysu'r personau hynny yr oedd yn ofynnol, o dan baragraff 8 o Atodlen 2, rhoi hysbysiad o'r cais iddynt o dan reoliad 24 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a'r ceiswyr mewn perthynas â'r ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth;

(b)datgan am ba gyfnod y bydd y gymeradwyaeth mangre dros dro mewn grym; ac

(c)cynnwys y fangre honno yn y rhestr meddygon fferyllol mewn perthynas â'r meddyg hwnnw.

(14Caniateir rhoi cymeradwyaeth mangre dros dro am gyfnod o ddim mwy na deuddeng mis, a chaniateir ei adnewyddu am gyfnod pellach o ddim mwy na thri mis.

(15Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (13).

(16Yn yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (15), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan I o Atodlen 3 a'r paragraffau canlynol o Atodlen 3 yn gymwys:

(a)6(4)(b) ac (c);

(b)7(2) a (4); ac

(c)8,

fel pe bai'r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(2) o Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 28 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisiauLL+C

29.—(1Mae cyfuno practisiau yn digwydd pan fo dau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn uno fel un darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, ac, o ganlyniad, dwy neu ragor o restrau cleifion yn cael eu cyfuno.

(2Yn dilyn cyfuno practisiau, os yw pob un o fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl yn fangreoedd a oedd, yn union cyn cyfuno'r practisiau, yn fangreoedd rhestredig, bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd hynny a'r cydsyniadau amlinellol perthynol yn parhau i gael effaith.

(3Yn dilyn cyfuno practisiau, os nad yw paragraff (2) yn gymwys ond yr oedd gan un neu ragor o'r meddygon a ymunodd â'i gilydd fel darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, yn union cyn cyfuno, gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangreoedd—

(a)os daw unrhyw rai o'r mangreoedd hynny yn fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—

(i)bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd a'r cydsyniadau amlinellol perthynol yn parhau i gael effaith, a

(ii)rhaid trin unrhyw geisiadau am gymeradwyaethau mangre i fangreoedd practis eraill fel ceisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 28 (cymeradwyo mangre: mangreoedd ychwanegol a newydd wedi i'r cydsyniad amlinellol gael effaith);

(b)os nad oes yr un o'r mangreoedd hynny yn dod yn fangre practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—

(i)caiff meddyg gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre o dan reoliad 24 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a chael trin y cais hwnnw fel adleoliad o fangre restredig meddyg a oedd yn rhan o'r cyfuno practisiau; a

(ii)rhaid trin unrhyw geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangreoedd practis eraill y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl fel ceisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 28.

(4Caniateir gwneud cais a grybwyllir ym mharagraff (3) cyn neu ar ôl cyfuno'r practisiau, ac os bydd cyfuno'r practisiau yn cael effaith cyn bo'r cais wedi ei benderfynu yn derfynol—

(a)bydd unrhyw gymeradwyaeth mangre sydd wedi cael effaith ar ddyddiad cyfuno'r practisiau yn cael effaith o ddyddiad y cyfuno ymlaen fel pe bai'n gymeradwyaeth mangre dros dro o dan reoliad 28(13) am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, o ddim mwy nag un flwyddyn; a

(b)bydd y practis newydd yn cael cymeradwyaeth mangre dros dro o ddyddiad cyfuno'r practisiau ymlaen i weinyddu o unrhyw fangre a grybwyllir yn y cais am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, o ddim mwy nag un flwyddyn.

(5Pan fo cyfuno practisiau yn cael effaith, rhaid i'r meddygon hysbysu'r holl Fyrddau Iechyd Lleol y lleolir y practis cyfunedig yn eu hardaloedd fod y cyfuno practisiau wedi digwydd.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo cais a wnaed o dan baragraff (3) wedi ei ganiatáu cyn i'r cyfuno practisiau ddigwydd, bydd y gymeradwyaeth mangre yn cael effaith o ddyddiad cyfuno'r practisiau ymlaen.

(7Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (3) cyn i'r cyfuno practisiau ddigwydd, ac nad yw'r cyfuno practisiau wedi digwydd cyn diwedd cyfnod o un flwyddyn sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre o dan y paragraff hwnnw, bydd y gymeradwyaeth mangre honno'n mynd yn ddi-rym.

(8Os gwrthodir cais o dan baragraff (3) am gymeradwyaeth mangre, naill ar gyfer pob un neu unrhyw rai o'r mangreoedd a bennir yn y cais, boed hynny cyn neu ar ôl i'r cyfuno practisiau ddigwydd, bydd gan y meddygon yr oedd ganddynt gymeradwyaeth mangre cyn gwneud y cais ac unrhyw feddyg arall yn y practis newydd ar ôl y dyddiad hwnnw gymeradwyaeth mangre weddilliol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cymeradwyaeth mangre weddilliol” (“residual premises approval”) yw cymeradwyaeth mangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol—

(a)o fangre yr oedd gan y meddyg hwnnw, neu feddyg arall yn ei bractis, gymeradwyaeth mangre ar ei chyfer ar yr adeg y gwnaed y cais mewn perthynas â chyfuno practisiau; a

(b)i glaf sy'n dod o fewn rheoliad 20(1) ac y mae'r meddyg sy'n gwneud y cais yn darparu gwasanaethau fferyllol iddo, ond gan eithrio unrhyw glaf o'r fath sy'n peidio â bod yn glaf a grybwyllir yn rheoliad 20(1)(b) neu (c).

(10At ddibenion paragraff (9), mae rheoliad 20(1)(b) neu (c) i'w ddarllen fel pe bai'r geiriau “, a bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff (4)” wedi eu hepgor.

(11Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais am gymeradwyaeth mangre o dan baragraff (3), penderfynir ar y personau a gaiff wneud apêl i Weinidogion Cymru yn unol ag—

(a)rheoliad 28 mewn perthynas â chais o dan baragraff (3)(a)(ii) neu (b)(ii); neu

(b)rheoliad 24 mewn perthynas â chais o dan baragraff (3)(b)(i).

(12Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais o dan baragraff (4), caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru.

(13Yn yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (12), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan I o Atodlen 3 a'r paragraffau canlynol o Atodlen 3 yn gymwys:

(a)6(4)(b);

(b)7(2) a (4); ac

(c)8,

fel pe bai'r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(2) o Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 29 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

ApelauLL+C

30.  Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau penodol a gynhwysir yn y Rhan hon, mae Atodlen 3 yn darparu ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 30 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources