RHAN 6Seiliau addasrwydd, cynnwys mewn rhestrau fferyllol a thynnu ymaith o restrau fferyllol
Gohirio ceisiadau ar sail addasrwyddI131
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—
a
rheoliad 8(1)(a) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 12(5); a
b
rheoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.
2
Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried neu benderfynu cais—
a
os oes achos troseddol yn y Deyrnas Unedig neu achos yn rhywle arall yn y byd sy'n ymwneud ag ymddygiad a fyddai, yn y Deyrnas Unedig, yn gyfystyr â throsedd, mewn perthynas ag—
i
y ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, mewn perthynas â'r ceisydd neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), neu
ii
corff corfforaethol y mae'r ceisydd yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono, neu y bu'r ceisydd yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono yn ystod y chwe mis blaenorol neu ar adeg y digwyddiadau cychwynnol,
a fyddai, pe bai'n arwain at gollfarn, neu'r hyn sy'n gyfystyr â chollfarn, yn debygol o beri tynnu'r ceisydd ymaith o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, pe bai'r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
b
os oes ymchwiliad mewn unrhyw le yn y byd gan gorff sy'n trwyddedu neu'n rheoleiddio'r ceisydd (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), neu unrhyw ymchwiliad arall (gan gynnwys ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol arall) ynglŷn â gallu proffesiynol y ceisydd, a fyddai, pe bai'r canlyniad yn anffafriol yn debygol o beri tynnu'r ceisydd ymaith o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, pe bai'r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
c
os yw'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) yn cael ei atal dros dro o restr berthnasol;
d
os yw corff corfforaethol yr oedd y ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono yn cael ei atal dros dro o restr berthnasol;
e
os yw'r Tribiwnlys yn ystyried apêl gan y ceisydd (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol—
i
i wrthod cais gan y ceisydd am ei gynnwys mewn rhestr berthnasol, neu
ii
i gynnwys yn amodol neu dynnu ymaith, neu dynnu yn ddigwyddiadol, y ceisydd o restr berthnasol, neu
iii
i wrthod cais gan y ceisydd am gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol,
a phe bai'r apêl honno'n aflwyddiannus, byddai'r Bwrdd Iechyd Lleol yn debygol o dynnu'r ceisydd ymaith o'r rhestr fferyllol pe bai'r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
f
os yw'r Tribiwnlys yn ystyried apêl gan gorff corfforaethol yr oedd y ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y chwe mis blaenorol yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono, yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol—
i
i wrthod cais gan y corff corfforaethol hwnnw am ei gynnwys mewn rhestr berthnasol;
ii
i wrthod cais gan y corff corfforaethol hwnnw am gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol; neu
iii
i'w gynnwys yn amodol neu i'w dynnu ymaith, neu i'w dynnu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol,
a phe bai'r apêl honno'n aflwyddiannus, byddai'r Bwrdd Iechyd Lleol yn debygol o dynnu'r ceisydd ymaith o'r rhestr fferyllol pe bai'r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
g
os yw'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) yn destun ymchwiliad mewn perthynas ag unrhyw dwyll, ac y byddai'r canlyniad, pe bai'n anffafriol, yn debygol o beri tynnu'r ceisydd ymaith o'r rhestr fferyllol pe bai'r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
h
os yw corff corfforaethol yr oedd y ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono yn destun ymchwiliad mewn perthynas â thwyll, ac y byddai'r canlyniad, pe bai'n anffafriol, yn debygol o beri tynnu'r ceisydd ymaith o'r rhestr fferyllol pe bai'r corff corfforaethol wedi ei gynnwys ynddi; neu
i
os yw'r Tribiwnlys yn ystyried cais gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol am anghymhwysiad cenedlaethol o'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) neu o gorff corfforaethol yr oedd y ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono;
j
os yw Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, am reswm mewn perthynas â thwyll, anaddasrwydd neu effeithlonrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau—
i
yn ystyried tynnu'r ceisydd (ac eithrio ei dynnu yn wirfoddol) neu dynnu'r ceisydd yn ddigwyddiadol oddi ar restr berthnasol; neu
ii
wedi gwneud penderfyniad i dynnu'r ceisydd (ac eithrio ei dynnu yn wirfoddol) neu dynnu'r ceisydd yn ddigwyddiadol oddi ar restr berthnasol ond nad yw'r penderfyniad hwnnw eto wedi cael effaith.
3
Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio penderfyniad o dan baragraff (2) ac eithrio hyd nes bo'r achos, yr ymchwiliadau neu'r ceisiadau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi eu cwblhau, neu'r rheswm dros ohirio yn peidio â bodoli.
4
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o benderfyniad i ohirio ystyried neu benderfynu y cais, ac o'r rhesymau am hynny.
5
Unwaith y bydd yr achos, yr ymchwiliadau neu'r ceisiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi eu cwblhau, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ceisydd y bydd rhaid i'r ceisydd, o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad, (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd)—
a
cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn dymuno mynd ymlaen â'r cais; a
b
y caiff ddiweddaru ei gais os yw'n dymuno.
6
Os nad yw'r ceisydd yn cadarnhau, yn unol â pharagraff (5), ei fod yn dymuno mynd ymlaen, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried bod y cais wedi ei dynnu'n ôl gan y ceisydd.
Gwrthod ceisiadau ar sail addasrwyddI232
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—
a
rheoliad 8(1)(a) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 12(5); a
b
rheoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.
2
Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol—
a
ar ôl ystyried yr wybodaeth a'r ymrwymiadau sy'n ofynnol gan Ran 2 o Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall sydd yn ei feddiant mewn perthynas â'r cais, o'r farn bod y ceisydd yn anaddas i'w gynnwys yn ei restr fferyllol;
b
ar ôl cysylltu â'r canolwyr enwebwyd gan y ceisydd yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1, heb ei fodloni gan y geirdaon a roddwyd;
c
ar ôl gwirio gydag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG unrhyw ffeithiau yr ystyria'r Awdurdod yn berthnasol ynglŷn ag ymchwiliadau i dwyll, presennol neu yn y gorffennol, sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hynny ac unrhyw ffeithiau eraill yn ei feddiant ynglŷn â thwyll sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), o'r farn eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o'r fath;
d
ar ôl gwirio gyda Gweinidogion Cymru unrhyw ffeithiau yr ystyriant yn berthnasol ynglŷn ag ymchwiliadau neu achosion, presennol neu yn y gorffennol, sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hynny ac unrhyw ffeithiau eraill yn ei feddiant sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), o'r farn eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o'r fath; neu
e
o'r farn y byddai derbyn y ceisydd i'r rhestr yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaeth y byddai'r ceisydd yn ymrwymo i'w ddarparu.
3
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais os yw—
a
y ceisydd (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am lofruddiaeth;
b
y ceisydd (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am drosedd ac eithrio llofruddiaeth, a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na chwe mis o garchar;
c
y ceisydd yn destun anghymhwysiad cenedlaethol; neu
d
y Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn penderfynu y caniateir cynnwys y ceisydd mewn rhestr fferyllol, yn ddarostyngedig i amodau, ond nad yw'r ceisydd, o fewn 30 diwrnod i'r penderfyniad hwnnw, wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi cytuno â gosod yr amodau.
4
Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gwrthod cais o dan baragraff (2), rhaid iddo gymryd i ystyriaeth yr holl ffeithiau sy'n ymddangos iddo yn berthnasol, ac yn benodol, mewn perthynas â pharagraff (2)(a), (c) a (d), rhaid iddo ystyried—.
a
natur unrhyw drosedd, ymchwiliad neu ddigwyddiad;
b
yr amser a aeth heibio ers unrhyw drosedd, digwyddiad, collfarn neu ymchwiliad;
c
a oes yna unrhyw droseddau, digwyddiadau neu ymchwiliadau eraill i'w hystyried;
d
unrhyw gamau a gymerwyd neu gosb a osodwyd gan unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, gan yr heddlu neu'r llysoedd o ganlyniad i unrhyw drosedd, digwyddiad neu ymchwiliad o'r fath;
e
pa mor berthnasol yw unrhyw drosedd, digwyddiad neu ymchwiliad i'r ddarpariaeth gan y ceisydd o wasanaethau fferyllol ac unrhyw risg debygol i ddefnyddwyr gwasanaethau fferyllol neu i arian cyhoeddus;
f
a oedd unrhyw drosedd yn drosedd rywiol y mae Rhan 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 200327 yn gymwys iddi, neu y byddai wedi bod yn gymwys pe bai'r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru neu Loegr;
g
a yw'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) wedi ei wrthod rhag ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu wedi ei gynnwys yn amodol, neu ei dynnu, neu ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro ar seiliau addasrwydd i ymarfer, ac os felly, ffeithiau'r mater a arweiniodd at weithredu felly, a'r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol dros weithredu felly; neu
h
a fu'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y chwe mis blaenorol, yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol y gwrthodwyd ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu a gynhwyswyd yn amodol mewn rhestr o'r fath, neu a dynnwyd, neu a dynnwyd yn ddigwyddiadol oddi arni, neu sydd ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro, ar seiliau addasrwydd i ymarfer, ac os felly, beth oedd y ffeithiau ym mhob achos o'r fath, a'r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol ym mhob achos.
5
Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd i ystyriaeth y materion a bennir ym mharagraff (4), rhaid iddo ystyried effaith gyffredinol y materion a ystyrir.
6
Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar seiliau ym mharagraff (2) neu (3), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—
a
y rhesymau am y penderfyniad;
b
hawl y ceisydd i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad, a bod rhaid arfer yr hawl honno o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd o'r penderfyniad; ac
c
o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 200828, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
Cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwyddI333
1
Caiff Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cael cais gan berson—
a
o dan reoliad 8(1)(a) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) a'r cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys yn unol â rheoliad 12(5); neu
b
o dan reoliad 12 pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw,
benderfynu y bydd y person hwnnw, tra bo wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu tra bo'i gydsyniad rhagarweiniol yn ddilys, yn ddarostyngedig i amodau a osodir gan roi sylw i ofynion adran 104 (cynnwys yn amodol mewn rhestrau offthalmig a fferyllol) o Ddeddf 2006.
2
Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio'r telerau gwasanaethu y cynhwysir person yn unol â hwy yn y rhestr fferyllol at ddiben paragraff (1).
3
Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (1) fod yn amod a osodir gyda'r bwriad o—
a
rhwystro unrhyw niwed i effeithlonrwydd y gwasanaethau neu unrhyw un neu rai o'r gwasanaethau, y mae'r person wedi ymgymryd â'u darparu; neu
b
rhwystro unrhyw weithred neu anweithred o fewn adran 107(3)(a) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso ymarferwyr).
4
Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais yn ddarostyngedig i amod a osodir o dan baragraff (1), rhaid iddo hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo gynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—
a
y rhesymau am y penderfyniad;
b
hawl y person i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad;
c
o fewn pa derfyn amser yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl; a
d
effaith paragraff (5).
5
Os yw'r person, yn unol â rheoliad 17(2), yn darparu hysbysiad o gychwyn cyn bo'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl yn erbyn amod a osodwyd o dan baragraff (1), rhaid cynnwys y person hwnnw yn y rhestr fferyllol yn ddarostyngedig i'r amod, ond yn unig hyd nes canlyniad yr apêl os bydd yr apêl yn llwyddiannus.
6
Bydd yr apêl ar ffurf ailbenderfynu—
a
penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yr amod; a
b
os yw'r person, ar yr adeg y penderfynir yr apêl, wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i amrywio telerau gwasanaethu'r person hwnnw at y diben o osod yr amod neu mewn cysylltiad â'i osod.
7
Os nad yw'r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ar yr adeg y penderfynir yr apêl ac—
a
y Tribiwnlys yn cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol; neu
b
yn gosod amod gwahanol,
rhaid i'r person, o fewn 30 diwrnod ar ôl ei hysbysu o benderfyniad y Tribiwnlys, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o ba un a yw'r person yn dymuno tynnu ei gais yn ôl ai peidio.
8
Os yw'r person, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7), yn methu â hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod hwnnw o 30 diwrnod nad yw'n dymuno tynnu ei gais yn ôl, bydd y penderfyniad i ganiatáu cais y person hwnnw yn mynd yn ddi-rym.
9
Pan fo person yn dymuno tynnu ei enw oddi ar restr fferyllol, rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol, o leiaf 30 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw—
a
os gosodwyd amod o dan baragraff (1);
b
os yw'r person yn apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn yr amod hwnnw;
c
os yw'r Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn cadarnhau'r penderfyniad i osod yr amod hwnnw neu'n gosod amod arall; a
d
os yw'r person, o fewn 30 diwrnod ar ôl ei hysbysu o benderfyniad y Tribiwnlys, yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i ddymuniad i dynnu ei enw oddi ar restr fferyllol y Bwrdd,
onid yw'n anymarferol i'r person wneud hynny, ac os felly, rhaid i'r person hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny.
Tynnu ymaith o restr fferyllol am dorri amodau mewn cysylltiad â seiliau addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006I434
1
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried—
a
tynnu enw person o'r rhestr fferyllol o dan adran 107 (datgymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006, ac eithrio mewn achosion a bennir yn rheoliad 35 (tynnu ymaith oddi ar restr fferyllol am resymau eraill);
b
tynnu enw person o'r rhestr fferyllol yn ddigwyddiadol o dan adran 108 (tynnu digwyddiadol) o Ddeddf 2006;
c
tynnu enw person o'r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006;
d
gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, neu amrywio unrhyw amod neu osod amod gwahanol o dan yr adran honno, neu amrywio telerau gwasanaethu person o dan adran 108(4) o Ddeddf 2006; neu
e
tynnu enw person o'r rhestr fferyllol am dorri amod o dan reoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd),
ar sail addasrwydd, rhaid i'r Bwrdd ddilyn y weithdrefn a bennir yn y rheoliad hwn.
2
Cyn gweithredu fel a bennir ym mharagraff (1), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi i'r person—
a
hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn;
b
hysbysiad o'r camau y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba sail;
c
cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwn; a
d
y cyfle i gyflwyno'i achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw'r person yn gofyn am wrandawiad o'r fath o fewn y cyfnod o 30 diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (c).
3
Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)(c), rhaid iddo gymryd y sylwadau i ystyriaeth neu gynnal y gwrandawiad, yn ôl fel y digwydd, cyn cyrraedd ei benderfyniad.
4
Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyrraedd penderfyniad, rhaid iddo hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—
a
y rhesymau am y penderfyniad;
b
hawl y person i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad; ac
c
o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
5
Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu tynnu enw person yn ddigwyddiadol, rhaid iddo hysbysu'r person o'i hawl i gael adolygiad o'r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.
6
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â thynnu enw person o'r rhestr fferyllol, na thynnu ei enw yn ddigwyddiadol, hyd nes bo'r amser ar gyfer gwneud apêl wedi dod i ben neu, os gwneir apêl, hyd nes bo'r apêl wedi ei phenderfynu gan y Tribiwnlys.
7
Os yw'r Tribiwnlys yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol fod y Tribiwnlys wedi ystyried—
a
apêl gan berson yn erbyn tynnu digwyddiadol a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu yn hytrach dynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol; neu
b
apêl gan berson sy'n ddarostyngedig i amodau o dan reoliad 33, a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu yn hytrach beidio â chynnwys y person yn y rhestr fferyllol honno,
rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu'r person oddi ar ei restr fferyllol a hysbysu'r person, ar unwaith, ei fod wedi gwneud hynny.
Tynnu ymaith o restr fferyllol am resymau eraillI535
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu person oddi ar restr fferyllol a gynhelir ganddo os daw'n ymwybodol bod y person (ac os yw'r person yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y corff hwnnw)—
a
wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;
b
wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac wedi ei ddedfrydu i garchar am dymor hwy na chwe mis; neu
c
o dan anghymhwysiad cenedlaethol.
2
Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried tynnu person oddi ar ei restr fferyllol ar seiliau a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn cyrraedd ei benderfyniad—
a
hysbysu'r person o'r camau y mae'n ystyried eu cymryd a'r seiliau dros ystyried cymryd y camau hynny; a
b
fel rhan o'r hysbysiad—
i
hysbysu'r person am unrhyw honiadau a wnaed yn ei erbyn; a
ii
rhoi gwybod i'r person y caiff wneud—
aa
sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch y camau hynny ar yr amod bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael y sylwadau hynny o fewn 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol: a
bb
sylwadau llafar i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch y camau hynny, ar yr amod bod y person yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i ddymuniad i wneud sylwadau llafar o fewn 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a bod y person (neu gynrychiolydd) yn bresennol yn y gwrandawiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei drefnu at ddibenion clywed y sylwadau hynny; ac
c
mewn achos y mae paragraff (1)(a) neu (b) yn gymwys iddo, os yw'r person yn gorff corfforaethol, rhoi gwybod iddo na fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn tynnu'r corff corfforaethol oddi ar ei restr fferyllol o ganlyniad i baragraff (1)(a) neu (b) (heb niweidio unrhyw gamau eraill y caiff y Bwrdd eu cymryd), ar yr amod—
i
bod y cyfarwyddwr neu uwcharolygydd dan sylw yn peidio â bod yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd y corff corfforaethol o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad; a
ii
bod y corff corfforaethol yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol, o fewn y cyfnod hwnnw, am y dyddiad y mae'r cyfarwyddwr neu'r uwcharolygydd wedi peidio â bod, neu y bydd yn peidio â bod, yn gyfarwyddwr neu'n uwch-arolygydd y corff corfforaethol.
3
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu person oddi ar restr fferyllol—
a
os nad yw'r person, yn ystod y chwe mis blaenorol, wedi darparu gwasanaethau fferyllol o'r fangre y mae'r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn perthynas â hi (ond wrth gyfrifo'r cyfnod o chwe mis ni ddylid cynnwys unrhyw gyfnod pan oedd y person wedi ei atal); neu
b
os bu farw'r person, ond nid os yw cynrychiolydd y person hwnnw yn parhau i gynnal ei fusnes ar ôl ei farwolaeth o dan adran 72 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cynrychiolydd fferyllydd mewn achos o farwolaeth neu anabledd) cyn belled â bod y cynrychiolydd yn cynnal y busnes yn unol â darpariaethau'r Ddeddf honno, ac yn cytuno i gael ei rwymo gan y telerau gwasanaethu; neu
c
os nad yw'r person bellach yn fferyllydd cofrestredig.
4
Cyn tynnu person oddi ar restr fferyllol o dan baragraff (3) rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—
a
rhoi i'r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), 30 diwrnod o rybudd o'i fwriad i dynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol;
b
rhoi cyfle i'r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), wneud sylwadau mewn ysgrifen neu, os yw'n dymuno hynny, yn bersonol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac
c
ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol.
5
Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i dynnu person oddi ar y rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid iddo hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—
a
y rhesymau am y penderfyniad;
b
hawl y person i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad; ac
c
o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
6
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person ar unwaith mewn ysgrifen, o benderfyniad y Bwrdd o dan baragraff (3) i dynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol, ac o hawl y person i apelio o dan baragraff (7).
7
Caiff person a hysbysir o dan baragraff (6), o fewn 30 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad, apelio yn erbyn y penderfyniad drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, gan nodi seiliau'r apêl.
8
Ar ôl cael apêl o dan baragraff (7) rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol fod apêl wedi ei gael.
9
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu apêl, y rhoddwyd hysbysiad o apêl dilys mewn perthynas â hi yn unol â pharagraff (7) yn y cyfryw fodd (gan gynnwys o ran gweithdrefnau) a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.
10
Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (9), caiff Gweinidogion Cymru—
a
cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol; neu
b
yn lle'r penderfyniad hwnnw, gwneud unrhyw benderfyniad arall y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei wneud pan wnaeth y penderfyniad hwnnw.
11
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol beidio â thynnu enw person oddi ar y rhestr fferyllol—
a
os na wneir apêl, hyd nes i'r cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad ddod i ben; neu
b
os gwneir apêl, hyd nes bo'r apêl wedi ei phenderfynu.
12
Os yw apêl yn cael ei chadarnhau, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â thynnu enw'r person oddi ar y rhestr fferyllol.
Atal dros dro o restr fferyllolI636
1
Cyn gwneud penderfyniad o dan adran 110(1)(atal dros dro) neu adran 111(2) (atal dros dro tra'n aros am apêl) o Ddeddf 2006, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi i'r person—
a
hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn;
b
hysbysiad o'r camau y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba seiliau;
c
cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad a roddir o dan y paragraff hwn; a
d
y cyfle i wneud sylwadau mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, ar yr amod bod y person yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i ddymuniad i wneud sylwadau o fewn cyfnod penodedig (o ddim llai na 24 awr).
2
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir gan y person cyn cyrraedd ei benderfyniad.
3
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, unwaith y bydd wedi cyrraedd penderfyniad, hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw, mewn ysgrifen, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gan roi'r rhesymau am y penderfyniad (a chan nodi unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt).
4
Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi atal person o'r rhestr fferyllol dros dro, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person o'r rhesymau am y penderfyniad ac, yn achos ataliad o dan adran 110(1) o Ddeddf 2006, o'i hawl i gael adolygiad o'r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.
5
Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, ar unrhyw adeg, ddirymu'r ataliad a hysbysu'r person o'i benderfyniad.
Hysbysiad o benderfyniad i osod amodauI737
1
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu—
a
gwrthod caniatáu cais gan berson o dan reoliad 32;
b
gosod amodau ar berson o dan reoliad 33;
c
tynnu person ymaith o restr fferyllol y Bwrdd o dan reoliad 34 neu 35;
d
atal person dros dro o restr fferyllol y Bwrdd o dan reoliad 36;
e
gosod neu amrywio amod o dan reoliad 38; neu
f
gosod neu amrywio amod o dan reoliad 39,
rhaid iddo hysbysu'r personau a'r cyrff a bennir ym mharagraff (2) ac yn ychwanegol hysbysu'r rhai a bennir ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud felly gan y personau neu'r cyrff hynny mewn ysgrifen (gan gynnwys yn electronig), ynghylch y materion a bennir ym mharagraff (4).
2
Y personau sydd i'w hysbysu yw—
a
Gweinidogion Cymru;
b
unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, y gŵyr y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n hysbysu ei fod wedi cynnwys y ceisydd ar restr berthnasol;
c
Gweinidogion yr Alban;
d
yr Ysgrifennydd Gwladol;
e
Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;
f
y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon neu unrhyw gorff rheoleiddio priodol arall;
g
y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;
h
y Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; ac
i
yn achos twyll, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
3
Y personau neu'r cyrff a gaiff ofyn am eu hysbysu yn ychwanegol yn unol â pharagraff (1) yw—
a
personau neu gyrff a all ddangos—
i
eu bod, neu y buont, yn cyflogi'r person, yn defnyddio neu wedi defnyddio ei wasanaethau (neu os yw'r person yn gorff corfforaethol, wedi defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y corff corfforaethol hwnnw) mewn swydd broffesiynol, neu
ii
yn ystyried cyflogi neu ddefnyddio gwasanaethau'r person (neu os yw'r person yn gorff corfforaethol, defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y corff corfforaethol hwnnw) mewn swydd broffesiynol; a
b
partneriaeth y mae unrhyw un o'i haelodau yn darparu neu'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac sy'n gallu dangos bod y person, neu y bu'r person, yn aelod o'r bartneriaeth, neu fod y bartneriaeth yn ystyried ei wahodd i fod yn aelod.
4
Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
a
os yw'r person yn unigolyn neu'n bartneriaeth—
i
enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r person neu bob aelod o'r bartneriaeth;
ii
rhif cofrestru proffesiynol y person neu bob aelod o'r bartneriaeth;
iii
dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o'r penderfyniad; a
iv
enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.
b
os yw'r person yn gorff corfforaethol—
i
enw'r corff corfforaethol, ei rif cofrestru cwmni a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig;
ii
rhif cofrestru proffesiynol uwcharolygydd y corff corfforaethol a rhif cofrestru proffesiynol unrhyw gyfarwyddwr y corff corfforaethol sy'n fferyllydd cofrestredig;
iii
dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o'r penderfyniad; a
iv
enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.
5
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon copi at berson o unrhyw wybodaeth a ddarperir amdano i'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraffau (2) a (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda'r personau neu'r cyrff hynny ynglŷn â'r wybodaeth honno.
6
Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (2) neu (3) o'r materion a bennir ym mharagraff (4), caiff y Bwrdd, yn ychwanegol, os gofynnir iddo gan y person neu'r corff hwnnw, hysbysu'r person neu'r corff hwnnw o unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys sylwadau a wnaed gan y person.
7
Pan hysbysir Bwrdd Iechyd Lleol gan y Tribiwnlys, fod y Tribiwnlys wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar berson a dynnwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol oddi ar ei restr fferyllol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (2)(b), (g), (h) ac (i) a pharagraff (3).
8
Pan newidir penderfyniad o ganlyniad i adolygiad neu apêl, neu pan fo ataliad yn mynd yn ddi-rym, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu unrhyw berson neu gorff, a hysbyswyd o'r penderfyniad gwreiddiol, ynghylch y penderfyniad diweddarach neu ynghylch yr ataliad yn mynd yn ddi-rym.
Adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu dynnu yn ddigwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006I838
1
Pan fo rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006, adolygu ei benderfyniad i dynnu person yn ddigwyddiadol oddi ar y rhestr fferyllol neu atal person dros dro o'r rhestr fferyllol o dan adran 110 (atal dros dro) o Ddeddf 2006, neu pan fo'r Bwrdd yn penderfynu adolygu penderfyniad o'r fath, rhaid iddo roi i'r person hwnnw—
a
hysbysiad o'i fwriad i adolygu ei benderfyniad;
b
hysbysiad o'r penderfyniad y mae'n ystyried ei wneud o ganlyniad i'r adolygiad, a'r rhesymau am y penderfyniad;
c
cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a); a
d
cyfle i gyflwyno'i achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw'r person yn gofyn am hynny, o fewn y cyfnod o 30 diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (c).
2
Yn dilyn adolygiad o'r fath, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
a
cadarnhau'r tynnu digwyddiadol neu'r ataliad dros dro;
b
yn achos ataliad dros dro, ei derfynu;
c
yn achos tynnu digwyddiadol, amrywio'r amodau, gosod amodau gwahanol, dirymu'r tynnu digwyddiadol, neu dynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr.
3
Ni chaiff person a ataliwyd dros dro o restr fferyllol o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu a dynnwyd yn ddigwyddiadol oddi ar restr fferyllol o dan adran 108 o Ddeddf 2006 ofyn am adolygiad cyn diwedd —
a
cyfnod o dri mis sy'n cychwyn gyda dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i dynnu yn ddigwyddiadol; neu
b
cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.
4
Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1)(c), rhaid iddo gymryd y sylwadau i ystyriaeth neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl fel y digwydd, cyn cyrraedd ei benderfyniad.
5
Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad o dan adran 113(3) o Ddeddf 2006, rhaid iddo hysbysu'r person o'i benderfyniad a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—
a
y rhesymau am y penderfyniad;
b
os oes hawl gan y person i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad—
i
yr hawl sydd gan y person i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf 2006 (apelau)29, a
ii
o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl; ac
c
os yw'r person wedi ei atal dros dro neu wedi ei dynnu yn ddigwyddiadol neu os yw'r person yn parhau felly, y trefniadau ar gyfer adolygu'r ataliad dros dro neu'r amodau o dan adran 113(1) o Ddeddf 2006.
Adolygu penderfyniad i osod amodauI939
1
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i osod amodau yn unol â rheoliad 33, caiff adolygu penderfyniad o'r fath, naill ai o'i ddewis ei hunan neu os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau.
2
Ni chaiff person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau ofyn am adolygiad o benderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol—
a
yn cynnwys enw'r person yn ei restr fferyllol; neu
b
yn caniatáu cydsyniad rhagarweiniol i'r person,
ac ni chaiff ofyn am adolygiad o fewn chwe mis ar ôl penderfyniad ar adolygiad blaenorol.
3
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi i'r person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau—
a
hysbysiad o'i fwriad i adolygu ei benderfyniad;
b
hysbysiad o'r penderfyniad y mae'n ystyried ei wneud o ganlyniad i'r adolygiad, a'r rhesymau am y penderfyniad;
c
cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a); a
d
cyfle i gyflwyno'i achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw'r person yn gofyn am hynny, o fewn y cyfnod o 30 diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (c).
4
Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(c), rhaid iddo gymryd y sylwadau i ystyriaeth neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl fel y digwydd, cyn cyrraedd ei benderfyniad.
5
Yn dilyn adolygiad o'r fath, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
a
parhau'r amodau cyfredol;
b
gosod amodau newydd;
c
amrywio telerau gwasanaethu'r person;
d
amrywio'r amodau; neu
e
os yw'r person wedi torri amod, tynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol.
6
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person o'i benderfyniad, a rhaid iddo gynnwys gyda'r hysbysiad o'i benderfyniad esboniad o'r canlynol—
a
y rhesymau am y penderfyniad;
b
yr hawl sydd gan y person i apelio i'r Tribiwnlys; ac
c
o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
ApelauI1040
1
Pan fo person, ac eithrio person a hysbysir o dan reoliad 37, wedi ei hysbysu o benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol bod y Bwrdd—
a
yn bwriadu—
i
gwrthod caniatáu cais y mae rheoliad 32 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd) yn gymwys iddo ar seiliau a gynhwysir ym mharagraffau (2) neu (3) o'r rheoliad hwnnw;
ii
gosod amodau ar y person yn rhinwedd rheoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd), neu amrywio telerau gwasanaethu'r person yn unol â'r rheoliad hwnnw;
iii
yn unol â rheoliad 34 (tynnu ymaith o restr fferyllol am dorri amodau mewn cysylltiad â seiliau addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006)—
aa
tynnu enw'r person oddi ar y rhestr fferyllol o dan adran 107 (anghymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006;
bb
tynnu enw'r person yn ddigwyddiadol oddi ar y rhestr fferyllol o dan adran 108 (tynnu digwyddiadol) o Ddeddf 2006;
cc
tynnu enw person oddi ar y rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006;
dd
gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, amrywio unrhyw amod, gosod amod gwahanol neu amrywio telerau gwasanaethu'r person o dan yr adran honno;
ee
tynnu enw'r person oddi ar y rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan reoliad 33; neu
iv
tynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir yn rheoliad 35(1); neu
b
wedi adolygu penderfyniad i osod amodau o dan reoliad 39 (adolygu penderfyniad i osod amodau) ac wedi penderfynu cymryd un o'r camau gweithredu yn rheoliad 39(5); neu
c
wedi adolygu penderfyniad i dynnu'r person yn ddigwyddiadol oddi ar restr fferyllol yn rhinwedd rheoliad 38 (adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu dynnu yn ddigwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006), ac wedi—
i
cadarnhau'r tynnu digwyddiadol;
ii
amrywio'r amodau sy'n gysylltiedig â'r tynnu digwyddiadol neu wedi gosod amodau gwahanol; neu
iii
wedi tynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol,
caiff y person apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i'r Tribiwnlys.
2
Rhaid gwneud apêl o dan baragraff (1) mewn ysgrifen, gan nodi'r seiliau dros wneud yr apêl, a rhaid ei chyflwyno i'r Tribiwnlys o fewn y terfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008 y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
3
Caiff y Tribiwnlys, wrth benderfynu apêl, wneud unrhyw benderfyniad y gallai Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o dan y Rhan hon.