Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 7:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 7LL+CTaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG

Y Tariff Cyffuriau a chydnabyddiaeth ariannol i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIGLL+C

41.—(1Mae'r Tariff Cyffuriau y cyfeirir ato yn adran 81(4) o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) yn gyfuniad o'r canlynol—

(a)y penderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol a wneir gan Weinidogion Cymru, tra'n gweithredu fel awdurdod penderfynu, o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (cydnabyddiaeth ariannol i bersonau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol); a

(b)unrhyw offerynnau eraill y mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Ddeddf 2006, yn eu cyhoeddi, neu y byddant yn eu cyhoeddi, ynghyd â'r penderfyniadau hynny,

yn y cyhoeddiad a elwir y Tariff Cyffuriau, a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ym mha bynnag fformat a ystyriant yn briodol.

(2O ran penderfyniadau gan Weinidogion Cymru o dan adran 88 o Ddeddf 2006—

(a)caniateir eu gwneud drwy gyfeirio at raddfeydd, mynegeion neu fformiwlâu o unrhyw fath, ac os yw penderfyniad yn un sydd i'w wneud drwy gyfeirio at unrhyw raddfa, mynegai neu fformiwla o'r fath, caiff y penderfyniad ddarparu bod rhaid gwneud y cyfrifiad pris perthnasol drwy gyfeirio at y raddfa, mynegai neu fformiwla sydd—

(i)yn y ffurf sy'n gyfredol ar yr adeg y gwneir y penderfyniad, a

(ii)mewn unrhyw ffurf ddilynol a gaiff effaith ar ôl yr adeg honno; a

(b)cânt fod yn effeithiol o ran cydnabyddiaeth ariannol mewn perthynas â chyfnod sy'n cychwyn ar neu ar ôl y dyddiad a bennir yn y penderfyniad, a gaiff fod naill ai'n ddyddiad y penderfyniad neu'n ddyddiad cynharach neu ddiweddarach, ond ni chaiff fod yn ddyddiad cynharach ac eithrio pan nad yw'r penderfyniad, o'i gymryd yn ei gyfanrwydd, yn anffafriol i'r personau y mae'r penderfyniad yn ymwneud â'u cydnabyddiaeth ariannol.

(3Os nad yw penderfyniad a gynhwysir yn y Tariff Cyffuriau yn pennu dyddiad fel y crybwyllir ym mharagraff (2)(b), bydd yn cael effaith o ran cydnabyddiaeth ariannol mewn perthynas â'r cyfnod sy'n cychwyn ar y dyddiad y cyhoeddir y newid yn y Tariff Cyffuriau yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i unrhyw ddiwygiadau i'r Tariff Cyffuriau, a wneir gan Weinidogion Cymru ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol, gael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru mewn fersiwn gydgrynoëdig o'r Tariff Cyffuriau a fydd yn cynnwys y diwygiadau.

(5Rhaid cynnal yr ymgynghoriad, a ymgymerir gan Weinidogion Cymru o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 (adran 88: atodol) cyn cynnwys neu cyn newid pris cyffur neu gyfarpar a fydd yn ffurfio rhan o gyfrifiad cydnabyddiaeth ariannol, drwy ymgynghori ynglŷn â'r broses ar gyfer penderfynu'r pris sydd i'w gynnwys neu ei newid, ac nid y pris arfaethedig ei hunan (onid yw'n amhosibl cynnal ymgynghoriad effeithiol mewn unrhyw ffordd arall).

(6Rhaid i daliadau o dan y Tariff Cyffuriau gael eu gwneud—

(a)gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am wneud y taliad; a

(b)yn unol â threfniadau ar gyfer hawlio a gwneud taliadau, sydd i'w pennu yn y Tariff Cyffuriau, ond yn ddarostyngedig, fel y bo'n briodol, i unrhyw ddidyniad o gydnabyddiaeth ariannol fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG y caniateir, neu y mae'n rhaid, ei wneud o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw Reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 41 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Byrddau Iechyd Lleol fel awdurdodau penderfynuLL+C

42.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan yn y Tariff Cyffuriau mai'r awdurdod penderfynu ar gyfer ffi, lwfans neu gydnabyddiaeth ariannol arall benodol fydd Bwrdd Iechyd Lleol y fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG y mae'r gydnabyddiaeth ariannol yn berthynol iddo.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei awdurdodi i fod yn awdurdod penderfynu, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniad;

(b)cyhoeddi'r penderfyniad ym mha bynnag fodd a ystyria'n briodol ar gyfer ei ddwyn i sylw'r personau sy'n gynwysedig yn ei restrau fferyllol; ac

(c)rhoi'r penderfyniad ar gael ar gyfer ei arolygu.

(3Rhaid i benderfyniad a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol gynnwys y trefniadau ar gyfer hawlio a thalu'r gydnabyddiaeth ariannol ac—

(a)rhaid i hawliadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG gael eu gwneud yn unol â'r trefniadau; a

(b)rhaid gwneud taliadau o'r gydnabyddiaeth ariannol yn unol â'r trefniadau yn ddarostyngedig, fel y bo'n briodol, i unrhyw ddidyniad o'r gydnabyddiaeth ariannol y caniateir, neu y mae'n rhaid, ei wneud o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw Reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 42 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

GordaliadauLL+C

43.—(1Os yw Bwrdd Iechyd Lleol o'r farn bod taliad wedi ei wneud i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG fel a grybwyllir yn rheoliad 41(6) neu 42(3) mewn amgylchiadau pan nad oedd y taliad yn ddyledus, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu sylw'r fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG at y gordaliad ac—

(a)os yw'r fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG yn cydnabod bod gordaliad wedi ei wneud; neu

(b)pan nad yw'r fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG yn cydnabod bod gordaliad wedi ei wneud, ond y Bwrdd Iechyd Lleol neu, yn dilyn apêl, Gweinidogion Cymru o dan reoliad 9(1)(c) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethu a'r Tribiwnlys) 1992, yn penderfynu bod gordaliad wedi ei wneud,

bydd y swm a ordalwyd yn adenilladwy, naill ai drwy ddidynnu o gydnabyddiaeth ariannol y fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG neu rywfodd arall.

(2Ni fydd adennill gordaliad o dan y rheoliad hwn yn lleihau dim ar effaith ymchwiliad i doriad honedig o'r telerau gwasanaethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 43 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cynllun gwobrwyoLL+C

44.—(1Bydd fferyllydd GIG y cyflwynir archeb iddo o dan baragraff 5 o Atodlen 4, neu gontractwr cyfarpar GIG y cyflwynir archeb iddo o dan baragraff 4 o Atodlen 5, yn gymwys i hawlio taliad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol â'r Tariff Cyffuriau—

(a)os, yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 4 neu baragraff 8 o Atodlen 5, gwrthododd y fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r cyffuriau neu'r meddyginiaethau neu'r cyfarpar rhestredig a archebwyd, ac os hysbysodd y Bwrdd Iechyd Lleol o'r weithred honno cyn gynted ag y bo'n ymarferol; neu

(b)os cyflenwyd y cyffuriau neu'r cyfarpar rhestredig gan y fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG, er bod rheswm ganddo ar y pryd, neu ei fod wedi cael rheswm yn ddiweddarach, dros gredu nad oedd yr archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwid ar y ffurflen bresgripsiwn neu ffurflen bresgripsiwn amlroddadwy, a'r fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'r gred honno cyn gynted ag y bo'n ymarferol,

ac yn y naill achos neu'r llall, y fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG wedi anfon yr archeb y cyfeirir ati yn y paragraff hwn at y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi profi nad oedd yr archeb y cyfeirir ati yn y paragraff hwn yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwid ar y ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(2Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn perthynas ag unrhyw hawliad o dan baragraff (1) wneud pa bynnag daliad sy'n ddyledus i'r fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG, gan gyfrifo'r taliad yn y modd a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

(3Yn y paragraff hwn, mae “archeb” (“order”) yn cynnwys archeb honedig

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 44 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Taliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG sydd wedi eu hatal dros droLL+C

45.—(1Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau i unrhyw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG sydd wedi ei atal dros dro o restr fferyllol, yn unol â phenderfyniad Gweinidogion Cymru mewn perthynas â thaliadau o'r fath.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (3), ar ôl ymgynghori â'r cyfryw sefydliadau a gydnabyddir ganddynt fel rhai sy'n cynrychioli fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG y gwnaed trefniadau presennol gyda hwy ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r penderfyniad yn y Tariff Cyffuriau.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r penderfyniad o bryd i'w gilydd ar ôl ymgynghori â'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), a rhaid cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau hefyd, ynghyd â'r Tariff Cyffuriau.

(4Caiff penderfyniad Gweinidogion Cymru gynnwys darpariaeth na chaiff taliadau yn unol â'r penderfyniad fynd dros ben swm penodedig yn ystod unrhyw gyfnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 45 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources