RHAN 4Ceisiadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG am eu cynnwys mewn rhestrau fferyllol neu ddiwygio rhestrau fferyllol

Ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoli dros dro15.

(1)

Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio cofnod mewn rhestr fferyllol dros dro dros drwy ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 8(1)(b)(ii) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol) i adleoli i fangre wahanol dros dro, os bodlonir y Bwrdd—

(a)

bod yr amgylchiadau pan wneir y cais yn ei gwneud yn ofynnol ddarparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg;

(b)

ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre dros dro yn llai hygyrch i raddau sylweddol;

(c)

y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre dros dro ag a ddarperir yn y fangre restredig; ac

(d)

na fydd unrhyw doriad yn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol (ac eithrio am ba bynnag gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2)

Bydd diwygiad dros dro mewn cofnod yn y rhestr fferyllol yn cael effaith o'r dyddiad y cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd Lleol y cais a wnaed iddo, a bydd yn ddilys am ba bynnag gyfnod o hyd at chwe mis, ac unrhyw gyfnodau pellach o hyd at dri mis, a ystyrir yn angenrheidiol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3)

Caiff person ddychwelyd i'r cofnod a ddisodlwyd yn y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd y cyfnod a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2), drwy roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol 7 diwrnod, o leiaf, o rybudd ysgrifenedig.

(4)

Pan ddisodlir cofnod mewn rhestr fferyllol gan ddiwygiad dros dro yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd y disodliad hwnnw'n effeithio ar unrhyw weithrediadau mewn perthynas â'r trefniadau a ddisodlwyd (er, hwyrach y bydd angen eu hatal am resymau eraill), ac os bydd angen diwygio'r trefniadau a ddisodlwyd cyn diwedd y diwygiad dros dro, o ganlyniad i'r gweithrediadau hynny, bydd rhaid dychwelyd, ar ddiwedd y diwygiad dros dro, i'r trefniadau a ddisodlwyd fel y'u diwygiwyd o ganlyniad i'r gweithrediadau hynny.