RHAN 5Ceisiadau gan feddygon am eu cynnwys mewn rhestrau meddygon fferyllol neu ddiwygio rhestrau meddygon fferyllol

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaithI125

1

Wrth ganiatáu cais a wneir o dan reoliad 24 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu ar ba ddyddiad y bydd y cydsyniad amlinellol a'r gymeradwyaeth mangre yn cael effaith.

2

Os nad oes ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y'u diffinnir ym mharagraff (11)), mae'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith ar y dyddiad y caniateir y cais.

3

Os oes ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth ar y diwrnod cyn y caniateir y cais o dan reoliad 24, rhaid penderfynu'r dyddiad y bydd y cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith yn unol â pharagraffau (4) i (9).

4

Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn perthynas â chais y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, hysbysu'r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24, a Gweinidogion Cymru os yw'r cais yn destun apêl, ynghylch—

a

unrhyw geisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth;

b

tynnu'n ôl unrhyw geisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth;

c

y dyddiad dros dro (fel y'i diffinnir ym mharagraff (11)) pan gaiff y meddyg ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y dylai'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre gael effaith; a

d

cais y meddyg am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym os dechreuir darparu gwasanaethau fferyllol, cyn y dyddiad dros dro, o fangre a oedd yn destun cais am fferyllfa yn yr arfaeth sydd wedi ei ganiatáu;

5

Ar y dyddiad dros dro, neu mor fuan ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad dros dro, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24—

a

y caiff y meddyg, o fewn tri mis ar ôl yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn iddo benderfynu a ddylai'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre gael effaith; a

b

bod rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu'r cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac yn unol â pharagraffau (6) a (7).

6

Os yw'r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hi, ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), yn fangre practis, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y bydd y cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â'r fangre honno yn cael effaith ar y dyddiad hwnnw.

7

Os nad yw'r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hi, ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), yn fangre practis, bydd y cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym.

8

Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (5) i'r ceisydd ac i'r personau hynny yr oedd yn ofynnol, o dan baragraff 8 o Atodlen 2, roi hysbysiad iddynt o'r cais o dan reoliad 24.

9

Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y bydd cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym yn rhinwedd paragraff (7) neu yr estynnir y dyddiad dros dro o dan baragraff (11), caiff y meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24 apelio i Weinidogion Cymru.

10

Yn yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (9), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan I o Atodlen 3 a'r paragraffau canlynol o Atodlen 3 yn gymwys:

a

6(4)(b) ac (c);

b

7(2) a (4); ac

c

8,

fel pe bai'r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(2) o Atodlen 3.

11

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yw cais a wneir o dan reoliad 8 (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol) neu reoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol)—

    1. a

      pan fo'r fangre a bennir yn y cais hwnnw o fewn 1.6 cilometr i'r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre ar ei chyfer; a

    2. b

      sydd naill ai—

      1. i

        wedi ei wneud ond eto heb ei benderfynu, gan gynnwys yn dilyn apêl, neu

      2. ii

        wedi ei ganiatáu fel y diffinnir “caniatawyd” yn rheoliad 17 (gweithdrefn yn dilyn caniatáu cais) ond darparu gwasanaethau fferyllol o'r fangre honno heb gychwyn eto; ac

    3. c

      ystyr “dyddiad dros dro” (“provisional date”) yw'r diwrnod ar ôl diwedd cyfnod o un flwyddyn, neu pa bynnag gyfnod pellach o ddim mwy na thri mis a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol (a rhaid iddo hysbysu'r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 24 o unrhyw estyniad) sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y caniateir y cais yn unol â rheoliad 24(9).