RHAN 6Seiliau addasrwydd, cynnwys mewn rhestrau fferyllol a thynnu ymaith o restrau fferyllol

Cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwyddI133

1

Caiff Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cael cais gan berson—

a

o dan reoliad 8(1)(a) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) a'r cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys yn unol â rheoliad 12(5); neu

b

o dan reoliad 12 pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw,

benderfynu y bydd y person hwnnw, tra bo wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu tra bo'i gydsyniad rhagarweiniol yn ddilys, yn ddarostyngedig i amodau a osodir gan roi sylw i ofynion adran 104 (cynnwys yn amodol mewn rhestrau offthalmig a fferyllol) o Ddeddf 2006.

2

Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio'r telerau gwasanaethu y cynhwysir person yn unol â hwy yn y rhestr fferyllol at ddiben paragraff (1).

3

Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (1) fod yn amod a osodir gyda'r bwriad o—

a

rhwystro unrhyw niwed i effeithlonrwydd y gwasanaethau neu unrhyw un neu rai o'r gwasanaethau, y mae'r person wedi ymgymryd â'u darparu; neu

b

rhwystro unrhyw weithred neu anweithred o fewn adran 107(3)(a) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso ymarferwyr).

4

Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais yn ddarostyngedig i amod a osodir o dan baragraff (1), rhaid iddo hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo gynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—

a

y rhesymau am y penderfyniad;

b

hawl y person i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad;

c

o fewn pa derfyn amser yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl; a

d

effaith paragraff (5).

5

Os yw'r person, yn unol â rheoliad 17(2), yn darparu hysbysiad o gychwyn cyn bo'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl yn erbyn amod a osodwyd o dan baragraff (1), rhaid cynnwys y person hwnnw yn y rhestr fferyllol yn ddarostyngedig i'r amod, ond yn unig hyd nes canlyniad yr apêl os bydd yr apêl yn llwyddiannus.

6

Bydd yr apêl ar ffurf ailbenderfynu—

a

penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yr amod; a

b

os yw'r person, ar yr adeg y penderfynir yr apêl, wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i amrywio telerau gwasanaethu'r person hwnnw at y diben o osod yr amod neu mewn cysylltiad â'i osod.

7

Os nad yw'r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ar yr adeg y penderfynir yr apêl ac—

a

y Tribiwnlys yn cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol; neu

b

yn gosod amod gwahanol,

rhaid i'r person, o fewn 30 diwrnod ar ôl ei hysbysu o benderfyniad y Tribiwnlys, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o ba un a yw'r person yn dymuno tynnu ei gais yn ôl ai peidio.

8

Os yw'r person, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7), yn methu â hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod hwnnw o 30 diwrnod nad yw'n dymuno tynnu ei gais yn ôl, bydd y penderfyniad i ganiatáu cais y person hwnnw yn mynd yn ddi-rym.

9

Pan fo person yn dymuno tynnu ei enw oddi ar restr fferyllol, rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol, o leiaf 30 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw—

a

os gosodwyd amod o dan baragraff (1);

b

os yw'r person yn apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn yr amod hwnnw;

c

os yw'r Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn cadarnhau'r penderfyniad i osod yr amod hwnnw neu'n gosod amod arall; a

d

os yw'r person, o fewn 30 diwrnod ar ôl ei hysbysu o benderfyniad y Tribiwnlys, yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i ddymuniad i dynnu ei enw oddi ar restr fferyllol y Bwrdd,

onid yw'n anymarferol i'r person wneud hynny, ac os felly, rhaid i'r person hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny.