RHAN 6Seiliau addasrwydd, cynnwys mewn rhestrau fferyllol a thynnu ymaith o restrau fferyllol

Tynnu ymaith o restr fferyllol am resymau eraillI135

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu person oddi ar restr fferyllol a gynhelir ganddo os daw'n ymwybodol bod y person (ac os yw'r person yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y corff hwnnw)—

a

wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;

b

wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac wedi ei ddedfrydu i garchar am dymor hwy na chwe mis; neu

c

o dan anghymhwysiad cenedlaethol.

2

Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried tynnu person oddi ar ei restr fferyllol ar seiliau a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn cyrraedd ei benderfyniad—

a

hysbysu'r person o'r camau y mae'n ystyried eu cymryd a'r seiliau dros ystyried cymryd y camau hynny; a

b

fel rhan o'r hysbysiad—

i

hysbysu'r person am unrhyw honiadau a wnaed yn ei erbyn; a

ii

rhoi gwybod i'r person y caiff wneud—

aa

sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch y camau hynny ar yr amod bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael y sylwadau hynny o fewn 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol: a

bb

sylwadau llafar i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch y camau hynny, ar yr amod bod y person yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i ddymuniad i wneud sylwadau llafar o fewn 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a bod y person (neu gynrychiolydd) yn bresennol yn y gwrandawiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei drefnu at ddibenion clywed y sylwadau hynny; ac

c

mewn achos y mae paragraff (1)(a) neu (b) yn gymwys iddo, os yw'r person yn gorff corfforaethol, rhoi gwybod iddo na fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn tynnu'r corff corfforaethol oddi ar ei restr fferyllol o ganlyniad i baragraff (1)(a) neu (b) (heb niweidio unrhyw gamau eraill y caiff y Bwrdd eu cymryd), ar yr amod—

i

bod y cyfarwyddwr neu uwcharolygydd dan sylw yn peidio â bod yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd y corff corfforaethol o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad; a

ii

bod y corff corfforaethol yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol, o fewn y cyfnod hwnnw, am y dyddiad y mae'r cyfarwyddwr neu'r uwcharolygydd wedi peidio â bod, neu y bydd yn peidio â bod, yn gyfarwyddwr neu'n uwch-arolygydd y corff corfforaethol.

3

Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu person oddi ar restr fferyllol—

a

os nad yw'r person, yn ystod y chwe mis blaenorol, wedi darparu gwasanaethau fferyllol o'r fangre y mae'r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn perthynas â hi (ond wrth gyfrifo'r cyfnod o chwe mis ni ddylid cynnwys unrhyw gyfnod pan oedd y person wedi ei atal); neu

b

os bu farw'r person, ond nid os yw cynrychiolydd y person hwnnw yn parhau i gynnal ei fusnes ar ôl ei farwolaeth o dan adran 72 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cynrychiolydd fferyllydd mewn achos o farwolaeth neu anabledd) cyn belled â bod y cynrychiolydd yn cynnal y busnes yn unol â darpariaethau'r Ddeddf honno, ac yn cytuno i gael ei rwymo gan y telerau gwasanaethu; neu

c

os nad yw'r person bellach yn fferyllydd cofrestredig.

4

Cyn tynnu person oddi ar restr fferyllol o dan baragraff (3) rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

a

rhoi i'r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), 30 diwrnod o rybudd o'i fwriad i dynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol;

b

rhoi cyfle i'r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), wneud sylwadau mewn ysgrifen neu, os yw'n dymuno hynny, yn bersonol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac

c

ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol.

5

Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i dynnu person oddi ar y rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid iddo hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—

a

y rhesymau am y penderfyniad;

b

hawl y person i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad; ac

c

o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

6

Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person ar unwaith mewn ysgrifen, o benderfyniad y Bwrdd o dan baragraff (3) i dynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol, ac o hawl y person i apelio o dan baragraff (7).

7

Caiff person a hysbysir o dan baragraff (6), o fewn 30 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad, apelio yn erbyn y penderfyniad drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, gan nodi seiliau'r apêl.

8

Ar ôl cael apêl o dan baragraff (7) rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol fod apêl wedi ei gael.

9

Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu apêl, y rhoddwyd hysbysiad o apêl dilys mewn perthynas â hi yn unol â pharagraff (7) yn y cyfryw fodd (gan gynnwys o ran gweithdrefnau) a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

10

Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (9), caiff Gweinidogion Cymru—

a

cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol; neu

b

yn lle'r penderfyniad hwnnw, gwneud unrhyw benderfyniad arall y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei wneud pan wnaeth y penderfyniad hwnnw.

11

Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol beidio â thynnu enw person oddi ar y rhestr fferyllol—

a

os na wneir apêl, hyd nes i'r cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad ddod i ben; neu

b

os gwneir apêl, hyd nes bo'r apêl wedi ei phenderfynu.

12

Os yw apêl yn cael ei chadarnhau, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â thynnu enw'r person oddi ar y rhestr fferyllol.