RHAN 6Seiliau addasrwydd, cynnwys mewn rhestrau fferyllol a thynnu ymaith o restrau fferyllol

Atal dros dro o restr fferyllolI136

1

Cyn gwneud penderfyniad o dan adran 110(1)(atal dros dro) neu adran 111(2) (atal dros dro tra'n aros am apêl) o Ddeddf 2006, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi i'r person—

a

hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn;

b

hysbysiad o'r camau y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba seiliau;

c

cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad a roddir o dan y paragraff hwn; a

d

y cyfle i wneud sylwadau mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, ar yr amod bod y person yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i ddymuniad i wneud sylwadau o fewn cyfnod penodedig (o ddim llai na 24 awr).

2

Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir gan y person cyn cyrraedd ei benderfyniad.

3

Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, unwaith y bydd wedi cyrraedd penderfyniad, hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw, mewn ysgrifen, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gan roi'r rhesymau am y penderfyniad (a chan nodi unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt).

4

Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi atal person o'r rhestr fferyllol dros dro, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person o'r rhesymau am y penderfyniad ac, yn achos ataliad o dan adran 110(1) o Ddeddf 2006, o'i hawl i gael adolygiad o'r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.

5

Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, ar unrhyw adeg, ddirymu'r ataliad a hysbysu'r person o'i benderfyniad.