Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Hysbysiad o benderfyniad i osod amodauLL+C

37.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu—

(a)gwrthod caniatáu cais gan berson o dan reoliad 32;

(b)gosod amodau ar berson o dan reoliad 33;

(c)tynnu person ymaith o restr fferyllol y Bwrdd o dan reoliad 34 neu 35;

(d)atal person dros dro o restr fferyllol y Bwrdd o dan reoliad 36;

(e)gosod neu amrywio amod o dan reoliad 38; neu

(f)gosod neu amrywio amod o dan reoliad 39,

rhaid iddo hysbysu'r personau a'r cyrff a bennir ym mharagraff (2) ac yn ychwanegol hysbysu'r rhai a bennir ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud felly gan y personau neu'r cyrff hynny mewn ysgrifen (gan gynnwys yn electronig), ynghylch y materion a bennir ym mharagraff (4).

(2Y personau sydd i'w hysbysu yw—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, y gŵyr y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n hysbysu ei fod wedi cynnwys y ceisydd ar restr berthnasol;

(c)Gweinidogion yr Alban;

(d)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(e)Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;

(f)y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon neu unrhyw gorff rheoleiddio priodol arall;

(g)y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(h)y Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; ac

(i)yn achos twyll, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

(3Y personau neu'r cyrff a gaiff ofyn am eu hysbysu yn ychwanegol yn unol â pharagraff (1) yw—

(a)personau neu gyrff a all ddangos—

(i)eu bod, neu y buont, yn cyflogi'r person, yn defnyddio neu wedi defnyddio ei wasanaethau (neu os yw'r person yn gorff corfforaethol, wedi defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y corff corfforaethol hwnnw) mewn swydd broffesiynol, neu

(ii)yn ystyried cyflogi neu ddefnyddio gwasanaethau'r person (neu os yw'r person yn gorff corfforaethol, defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y corff corfforaethol hwnnw) mewn swydd broffesiynol; a

(b)partneriaeth y mae unrhyw un o'i haelodau yn darparu neu'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac sy'n gallu dangos bod y person, neu y bu'r person, yn aelod o'r bartneriaeth, neu fod y bartneriaeth yn ystyried ei wahodd i fod yn aelod.

(4Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)os yw'r person yn unigolyn neu'n bartneriaeth—

(i)enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r person neu bob aelod o'r bartneriaeth;

(ii)rhif cofrestru proffesiynol y person neu bob aelod o'r bartneriaeth;

(iii)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o'r penderfyniad; a

(iv)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.

(b)os yw'r person yn gorff corfforaethol—

(i)enw'r corff corfforaethol, ei rif cofrestru cwmni a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig;

(ii)rhif cofrestru proffesiynol uwcharolygydd y corff corfforaethol a rhif cofrestru proffesiynol unrhyw gyfarwyddwr y corff corfforaethol sy'n fferyllydd cofrestredig;

(iii)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o'r penderfyniad; a

(iv)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.

(5Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon copi at berson o unrhyw wybodaeth a ddarperir amdano i'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraffau (2) a (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda'r personau neu'r cyrff hynny ynglŷn â'r wybodaeth honno.

(6Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (2) neu (3) o'r materion a bennir ym mharagraff (4), caiff y Bwrdd, yn ychwanegol, os gofynnir iddo gan y person neu'r corff hwnnw, hysbysu'r person neu'r corff hwnnw o unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys sylwadau a wnaed gan y person.

(7Pan hysbysir Bwrdd Iechyd Lleol gan y Tribiwnlys, fod y Tribiwnlys wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar berson a dynnwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol oddi ar ei restr fferyllol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (2)(b), (g), (h) ac (i) a pharagraff (3).

(8Pan newidir penderfyniad o ganlyniad i adolygiad neu apêl, neu pan fo ataliad yn mynd yn ddi-rym, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu unrhyw berson neu gorff, a hysbyswyd o'r penderfyniad gwreiddiol, ynghylch y penderfyniad diweddarach neu ynghylch yr ataliad yn mynd yn ddi-rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 37 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)