RHAN 6LL+CSeiliau addasrwydd, cynnwys mewn rhestrau fferyllol a thynnu ymaith o restrau fferyllol

Adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu dynnu yn ddigwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006LL+C

38.—(1Pan fo rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006, adolygu ei benderfyniad i dynnu person yn ddigwyddiadol oddi ar y rhestr fferyllol neu atal person dros dro o'r rhestr fferyllol o dan adran 110 (atal dros dro) o Ddeddf 2006, neu pan fo'r Bwrdd yn penderfynu adolygu penderfyniad o'r fath, rhaid iddo roi i'r person hwnnw—

(a)hysbysiad o'i fwriad i adolygu ei benderfyniad;

(b)hysbysiad o'r penderfyniad y mae'n ystyried ei wneud o ganlyniad i'r adolygiad, a'r rhesymau am y penderfyniad;

(c)cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a); a

(d)cyfle i gyflwyno'i achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw'r person yn gofyn am hynny, o fewn y cyfnod o 30 diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (c).

(2Yn dilyn adolygiad o'r fath, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cadarnhau'r tynnu digwyddiadol neu'r ataliad dros dro;

(b)yn achos ataliad dros dro, ei derfynu;

(c)yn achos tynnu digwyddiadol, amrywio'r amodau, gosod amodau gwahanol, dirymu'r tynnu digwyddiadol, neu dynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr.

(3Ni chaiff person a ataliwyd dros dro o restr fferyllol o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu a dynnwyd yn ddigwyddiadol oddi ar restr fferyllol o dan adran 108 o Ddeddf 2006 ofyn am adolygiad cyn diwedd —

(a)cyfnod o dri mis sy'n cychwyn gyda dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i dynnu yn ddigwyddiadol; neu

(b)cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.

(4Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1)(c), rhaid iddo gymryd y sylwadau i ystyriaeth neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl fel y digwydd, cyn cyrraedd ei benderfyniad.

(5Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad o dan adran 113(3) o Ddeddf 2006, rhaid iddo hysbysu'r person o'i benderfyniad a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—

(a)y rhesymau am y penderfyniad;

(b)os oes hawl gan y person i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad—

(i)yr hawl sydd gan y person i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf 2006 (apelau)(1), a

(ii)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl; ac

(c)os yw'r person wedi ei atal dros dro neu wedi ei dynnu yn ddigwyddiadol neu os yw'r person yn parhau felly, y trefniadau ar gyfer adolygu'r ataliad dros dro neu'r amodau o dan adran 113(1) o Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 38 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

Sylwer nad oes hawl i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniad i atal ymarferydd dros dro, nac i adolygu penderfyniad ynghylch atal dros dro. Fodd bynnag, mae hawl i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn unrhyw benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol ynghylch adolygiad o dynnu digwyddiadol o dan adran 113 o Ddeddf 2006. Gweler adran 114 o Ddeddf 2006.