Adolygu penderfyniad i osod amodauLL+C
39.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i osod amodau yn unol â rheoliad 33, caiff adolygu penderfyniad o'r fath, naill ai o'i ddewis ei hunan neu os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau.
(2) Ni chaiff person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau ofyn am adolygiad o benderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)yn cynnwys enw'r person yn ei restr fferyllol; neu
(b)yn caniatáu cydsyniad rhagarweiniol i'r person,
ac ni chaiff ofyn am adolygiad o fewn chwe mis ar ôl penderfyniad ar adolygiad blaenorol.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi i'r person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau—
(a)hysbysiad o'i fwriad i adolygu ei benderfyniad;
(b)hysbysiad o'r penderfyniad y mae'n ystyried ei wneud o ganlyniad i'r adolygiad, a'r rhesymau am y penderfyniad;
(c)cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a); a
(d)cyfle i gyflwyno'i achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw'r person yn gofyn am hynny, o fewn y cyfnod o 30 diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (c).
(4) Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(c), rhaid iddo gymryd y sylwadau i ystyriaeth neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl fel y digwydd, cyn cyrraedd ei benderfyniad.
(5) Yn dilyn adolygiad o'r fath, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)parhau'r amodau cyfredol;
(b)gosod amodau newydd;
(c)amrywio telerau gwasanaethu'r person;
(d)amrywio'r amodau; neu
(e)os yw'r person wedi torri amod, tynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol.
(6) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person o'i benderfyniad, a rhaid iddo gynnwys gyda'r hysbysiad o'i benderfyniad esboniad o'r canlynol—
(a)y rhesymau am y penderfyniad;
(b)yr hawl sydd gan y person i apelio i'r Tribiwnlys; ac
(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 39 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)