RHAN 8Amrywiol

Bwrdd Iechyd Lleol cartrefI146

1

Caiff ceisydd sy'n gorff corfforaethol ac y mae'n ofynnol iddo ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol am i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw weithredu fel ei Fwrdd Iechyd Lleol cartref.

2

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno â chais a wnaed o dan baragraff (1), caiff ceisydd y mae'n ofynnol iddo ddarparu, fel rhan o gais, yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1, ddarparu'r wybodaeth honno i'w Fwrdd Iechyd Lleol cartref yn hytrach, a hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo fod yr wybodaeth honno eisoes ym meddiant y Bwrdd Iechyd Lleol cartref.

3

Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol cartref drosglwyddo'r wybodaeth a gaiff gan geisydd o dan y rheoliad hwn ymlaen i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r ceisydd yn gwneud cais iddo yn ddiweddarach, a rhaid iddo wneud hynny o fewn 30 diwrnod ar ôl cael cais am yr wybodaeth honno gan y Bwrdd Iechyd Lleol arall.

4

Rhaid i'r ceisydd naill ai—

a

cadarnhau wrth y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo fod yr wybodaeth yn gyfredol; neu

b

diweddaru'r wybodaeth drwy ei hanfon at y Bwrdd Iechyd Lleol cartref.