ATODLEN 2Gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rheoliadau

RHAN 3Ceisiadau am gynnwys personau mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol, neu ddiwygio rhestrau o'r fath

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 11(2)I117

1

Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad ar gais sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(c), roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i—

a

y ceisydd, a

b

unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(4).

2

Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac o unrhyw hawliau apelio.