ATODLEN 2Gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rheoliadau

RHAN 2Penderfynu ar ardaloedd rheoledig

Gosod amodau

6.

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio—

(a)

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried a yw'n debygol yr effeithir yn anffafriol ar y ddarpariaeth o—

(i)

gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau o'r fath (ac eithrio'r Bwrdd ei hunan),

(ii)

gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)

gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)

gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw; a

(b)

caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw o'r farn ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar unrhyw un o'r gwasanaethau hynny, osod amodau i ohirio, am ba bynnag gyfnod yr ystyria'n briodol, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu gan feddyg neu gontractwr GMC i gleifion ar y rhestr cleifion berthnasol.