ATODLEN 3Apelau i Weinidogion Cymru
RHAN 1Materion rhagarweiniol
Egwyddorion cyffredinolI11
Ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i'r gwrthwyneb, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a gyflwynir iddynt ym mha bynnag fodd yr ystyriant yn briodol, ac yn benodol, cânt—
a
ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt ac, yn eu barn hwy, yn berthnasol i benderfynu'r apêl;
b
ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd (ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd), ond os ydynt yn bwriadu gwneud hynny, rhaid iddynt roi hysbysiad o'r bwriad hwnnw i bob apelydd ac i'r rhai a hysbysir ynghylch pob apêl yn unol â'r Atodlen hon;
c
pan fo Gweinidogion Cymru, yn unol ag is-baragraff (b), yn ystyried dwy neu ragor o apelau y mae rheoliad 9(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, cânt wrthod apêl (er gwaethaf y ffaith y byddent, pe baent yn penderfynu'r apêl fel apêl unigol ar ei phen ei hunan, yn ei chaniatáu) os yw nifer yr apelau, neu'r amgylchiadau y'u gwneir ynddynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un ohonynt, yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn yr apêl;
d
dychwelyd apêl a gyflwynwyd iddynt at y Bwrdd Iechyd Lleol i'w ailbenderfynu, mewn achosion pan oedd yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 1 yn anghyflawn;
e
gwrthod apêl os ydynt o'r farn bod yr hysbysiad o apêl—
i
yn annilys oherwydd nad yw'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon;
ii
yn amddifad o unrhyw sail resymol dros apelio; neu
iii
rywfodd arall yn flinderus neu'n wacsaw.
Gwrandawiadau llafarI22
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar os ydynt o'r farn bod angen clywed sylwadau ar lafar cyn penderfynu apêl a gyflwynwyd iddynt.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddynt—
a
penodi un neu ragor o bersonau i glywed yr apêl ac i adrodd wrthynt ar yr apêl;
b
rhoi dim llai na 14 diwrnod o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad i'r apelydd ac i unrhyw berson yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl ato o dan baragraff 4 neu 7;
c
rhoi gwybod i'r apelydd i bwy y rhoddwyd hysbysiad o'r gwrandawiad; a
d
rhoi gwybod i'r rhai a hysbysir y cânt wneud sylwadau ar lafar ynglŷn â'r apêl yn y gwrandawiad.
3
Caiff unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), sy'n dymuno rhoi sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, hyd yn oed pan na all y person a hysbysir o dan is-baragraff (2) fod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.
4
Caiff y person neu'r personau a benodir gan Weinidogion Cymru i glywed yr apêl benderfynu'r weithdrefn a ddilynir yn y gwrandawiad.
5
Ni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan unrhyw argymhellion a fydd yn codi o'r gwrandawiad llafar.
RHAN 2Apelau yn erbyn penderfyniadau sy'n pennu ardaloedd rheoledig
Hawl i apelio i Weinidogion CymruI33
1
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, yn rhinwedd rheoliad 6(3) (ardaloedd sy'n ardaloedd rheoledig), na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, caiff y ceisydd gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
2
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, o dan reoliad 6(2), a yw ardal benodol o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, y personau sydd â hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—
a
y Pwyllgor Meddygol Lleol;
b
y Pwyllgor Fferyllol Lleol; ac
c
unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad iddo o'r penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2.
3
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y dylai neu na ddylai ohirio gwneud neu derfynu trefniadau, fel a grybwyllir ym mharagraff 6(b) o Atodlen 2, y rhai a gaiff gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—
a
y Pwyllgor Meddygol Lleol;
b
y Pwyllgor Fferyllol Lleol; ac
c
unrhyw berson a gynhwysir mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad iddynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2.
4
Mae hysbysiad o apêl yn ddilys os—
a
cyflwynir yr hysbysiad gan berson sydd â hawl i apelio o dan is-baragraff (1), (2) neu (3);
b
anfonir yr hysbysiad at Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad o'r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person sy'n gwneud yr apêl; ac
c
bod yr hysbysiad yn cynnwys datganiad o seiliau'r apêl.
Hysbysu ynghylch apelauI44
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(1) anfon copi o'r hysbysiad at y Bwrdd Iechyd Lleol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(2) neu 3(3) anfon copi o'r hysbysiad at—
a
y Bwrdd Iechyd Lleol; a
b
y personau hynny y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad o'i benderfyniad iddynt o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2.
3
Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i'r rhai yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan is-baragraffau (1) i (3)—
a
y cânt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn â'r apêl, o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt; a
b
am yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar.
Penderfynu mewn apelauI55
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cyrraedd penderfyniad mewn apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3, roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad, ynghyd â'r rhesymau drosto, i'r personau yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 4.
2
O ran Gweinidogion Cymru—
a
rhaid iddynt, os ydynt yn caniatáu apêl yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol na ellid ystyried cais yn rhinwedd rheoliad 6(3), naill ai—
i
penderfynu eu hunain y cwestiwn pa un a yw'r ardal benodol yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, neu
ii
dychwelyd y cwestiwn at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu;
b
os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 2, caiff Gweinidogion Cymru ystyried a ddylent, eu hunain, osod amodau;
c
os nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 2, caiff Gweinidogion Cymru naill ai—
i
ystyried a ddylent, eu hunain, osod amodau; neu
ii
dychwelyd y cwestiwn at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu;
d
os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried y cwestiwn a ddylid gohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o dan reoliad 20 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o'r fath am ba bynnag gyfnod a ystyriant yn briodol; neu
e
os nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried y cwestiwn a ddylid gohirio gwneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 20 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, rhaid i Weinidogion Cymru ddychwelyd y cwestiwn at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.
RHAN 3Apelau yn erbyn penderfyniadau ynglŷn â chynnwys personau mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol neu ddiwygio rhestrau o'r fath
Hawl i apelio i Weinidogion CymruI66
1
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, o dan baragraff 8(2) o Atodlen 2, wedi penderfynu peidio â gweithredu mewn perthynas â chais, caiff y ceisydd gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.
2
Yn achos pob cais arall y mae paragraff 8 o Atodlen 2 yn gymwys iddo, y personau sydd â hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol yw—
a
y ceisydd;
b
unrhyw rai o'r canlynol a gyflwynodd sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(4) o Atodlen 2—
i
unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
ii
unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
iii
unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a
iv
os yw'r fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.
3
Yn achos cais a benderfynwyd o dan reoliad 16 (ceisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaeth), y personau sydd â hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yw—
a
y ceisydd; a
b
unrhyw rai o'r canlynol, y rhoddwyd iddynt hysbysiad, o dan baragraff 14(2) o Atodlen 2, o'r penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais—
i
unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
ii
unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
iii
unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a
iv
os yw'r fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.
4
Mae hysbysiad o apêl yn ddilys os—
a
cyflwynir yr hysbysiad gan berson sydd â hawl i apelio o dan is-baragraffau (1), (2) neu (3);
b
anfonir yr hysbysiad at Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad o'r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person sy'n gwneud yr apêl; ac
c
bod yr hysbysiad yn cynnwys datganiad o seiliau'r apêl.
Hysbysu ynghylch apelauI77
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(1) anfon copi o'r hysbysiad at y Bwrdd Iechyd Lleol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(2), anfon copi o'r hysbysiad at—
a
y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl;
b
y Bwrdd Iechyd Lleol, ac
c
y rhai a hysbyswyd o'r cais ac a wnaeth sylwadau arno o dan baragraff 8(4) o Atodlen 2.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(3) anfon copi o'r hysbysiad at—
a
y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl;
b
y Bwrdd Iechyd Lleol, ac
c
y rhai y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad o'i benderfyniad iddynt o dan baragraff 14(2) o Atodlen 2.
4
Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i'r personau yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan y paragraff hwn—
a
y cânt, o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn â'r apêl;
b
am yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar; ac
c
pan fo bwriad gan Weinidogion Cymru i ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, am y bwriad hwnnw.
Penderfynu mewn apelauI88
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl a wnaed o dan baragraff 6, naill ai—
a
caniatáu'r apêl; neu
b
cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.
2
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, o dan baragraff 8(2) o Atodlen 2, wedi penderfynu peidio â gweithredu mewn perthynas â chais, a Gweinidogion Cymru yn caniatáu apêl y ceisydd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru dychwelyd y cais yn ôl at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
3
Mewn achos pan fo'r fangre a bennir mewn cais, sydd yn destun apêl, mewn ardal reoledig—
a
os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried a ddylid gosod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 11(6)(b), caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ystyried a ddylent osod amodau i ohirio gwneud neu derfynu trefniadau o'r fath, am ba bynnag gyfnod a ystyriant yn briodol; neu
b
os nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried a ddylid gosod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 11(6)(b), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—
i
ystyried a ddylent, eu hunain, osod amodau; neu
ii
dychwelyd y cwestiwn yn ôl at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cyrraedd penderfyniad mewn apêl, gan gynnwys gosod amodau o dan is-baragraff (3) roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad, ynghyd â'r rhesymau drosto, i'r personau hynny yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 7.
Effaith penderfyniadau gan Weinidogion CymruI99
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru yn dod yn benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y mater (ond ni fydd apêl bellach i Weinidogion Cymru ar y penderfyniad hwnnw yn bosibl, oni chaiff penderfyniad Gweinidogion Cymru ei wrthdroi gan lys).