ATODLEN 3Apelau i Weinidogion Cymru

RHAN 1Materion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinol1

Ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i'r gwrthwyneb, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a gyflwynir iddynt ym mha bynnag fodd yr ystyriant yn briodol, ac yn benodol, cânt—

a

ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt ac, yn eu barn hwy, yn berthnasol i benderfynu'r apêl;

b

ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd (ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd), ond os ydynt yn bwriadu gwneud hynny, rhaid iddynt roi hysbysiad o'r bwriad hwnnw i bob apelydd ac i'r rhai a hysbysir ynghylch pob apêl yn unol â'r Atodlen hon;

c

pan fo Gweinidogion Cymru, yn unol ag is-baragraff (b), yn ystyried dwy neu ragor o apelau y mae rheoliad 9(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, cânt wrthod apêl (er gwaethaf y ffaith y byddent, pe baent yn penderfynu'r apêl fel apêl unigol ar ei phen ei hunan, yn ei chaniatáu) os yw nifer yr apelau, neu'r amgylchiadau y'u gwneir ynddynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un ohonynt, yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn yr apêl;

d

dychwelyd apêl a gyflwynwyd iddynt at y Bwrdd Iechyd Lleol i'w ailbenderfynu, mewn achosion pan oedd yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 1 yn anghyflawn;

e

gwrthod apêl os ydynt o'r farn bod yr hysbysiad o apêl—

i

yn annilys oherwydd nad yw'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon;

ii

yn amddifad o unrhyw sail resymol dros apelio; neu

iii

rywfodd arall yn flinderus neu'n wacsaw.