ATODLEN 4Telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau

RHAN 4Llywodraethu Clinigol a Chwynion

Llywodraethu clinigol27

1

Rhaid i fferyllydd GIG, mewn cysylltiad â'r holl wasanaethau a ddarperir ganddo, gyfranogi mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd y gofynnir iddo yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol.

2

Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os yw'n darparu ar gyfer—

a

cydymffurfiaeth â'r cydrannau llywodraethu clinigol a bennir yn is-baragraff (3), a

b

cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw.

3

Y cydrannau llywodraethu clinigol yw'r canlynol—

a

rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion a'r cyhoedd, sy'n cynnwys—

i

gofyniad bod y fferyllydd GIG yn paratoi, mewn ffordd gymeradwy, taflen ymarfer mewn perthynas â fferyllfa'r fferyllydd GIG ac yn rhoi'r daflen ar gael mewn ffordd briodol,

ii

gofyniad bod y fferyllydd GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn ei fferyllfa neu ohoni,

iii

gofyniad bod y fferyllydd GIG, wrth roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn ei fferyllfa neu ohoni (pa un a yw'r fferyllydd GIG yn paratoi ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteu'n hysbysebu'r gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n dangos yn eglur mai fel rhan o'r gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau,

iv

gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cynnal arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, gan wneud hynny mewn ffordd a gymeradwyir, a chan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadau'r arolwg ac i unrhyw gamau priodol y mae'r fferyllydd GIG yn bwriadu eu cymryd,

v

trefniadau ar gyfer monitro cyffuriau neu gyfarpar sy'n ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

vi

system gwynion gymeradwy (sy'n bodloni gofynion y Rhan hon),

vii

gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithredu'n briodol gydag ymweliadau'r Cyngor Iechyd Cymuned Lleol ac yn cymryd camau priodol o ganlyniad i ymweliadau o'r fath,

viii

gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithredu'n briodol gydag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno'i gynnal, a

ix

trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 201037;

b

rhaglen o archwiliadau clinigol (pum diwrnod, fel arfer), sy'n cynnwys o leiaf un archwiliad mewn fferyllfa ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol;

c

rhaglen rheoli risg, sy'n cynnwys—

i

trefniadau i sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drafod mewn ffordd briodol,

ii

trefniadau i sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

iii

system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi ac ymateb i ddigwyddiadau critigol, sy'n cynnwys y canlynol—

aa

cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

bb

cofnod o ddigwyddiadau croen dannedd,

iv

trefniadau, sy'n cynnwys trefniadau cadw cofnodion, i ymdrin yn brydlon a phriodol â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

v

trefniadau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys trefniadau gweithredu safonol mewn perthynas â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

vi

trefniadau gwaredu gwastraff priodol (yn ychwanegol at yr hyn sy'n ofynnol o dan baragraffau 13 a 14) ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

vii

arweinydd llywodraethu clinigol ym mhob fferyllfa unigol (sef naill ai person a benodir fel y cyfryw gan y fferyllydd GIG neu'r fferyllydd GIG ei hunan) sy'n wybodus ynglŷn â'r gweithdrefnau fferylliaeth yn y fferyllfa honno a'r gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn ardal y fferyllfa honno,

viii

gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

ix

trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 197438;

d

rhaglen effeithiolrwydd clinigol, sy'n cynnwys trefniadau i sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y fferyllydd GIG—

i

mewn perthynas â darparu cyffuriau yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy,

ii

mewn perthynas â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

iii

i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau i sicrhau bod y fferyllydd GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(ii), yn rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 10(1)(f) mewn perthynas â'r ddarpariaeth o gyfarpar a'r patrwm presgripsiynu ar gyfer y claf dan sylw;

e

rhaglen staffio a rheoli staff, sy'n cynnwys—

i

trefniadau i ddarparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i aelodau o'r staff gan gynnwys unrhyw locwm,

ii

hyfforddiant priodol i'r holl staff ar gyfer pa bynnag rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

iii

trefniadau i wirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

iv

trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu pob aelod o'r staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau fel rhan o'r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu sydd ei angen mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

v

trefniadau ar gyfer mynd i'r afael â pherfformiad gwael (ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol fel y bo'n briodol), a

vi

trefniadau (y mae'n rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) i sicrhau, bod yr holl staff gan gynnwys unrhyw locwm sydd, o ganlyniad i'w cyflogaeth gyda'r fferyllydd GIG—

aa

yn gwneud yr hyn sy'n ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 199639 (ystyr datgeliad gwarchodedig), yn cael arfer yr hawliau a roddir mewn perthynas â datgeliadau o'r fath gan y Ddeddf honno, a

bb

yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol, i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol, sy'n cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd er nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad i'r weithred honno;

f

rhaglen lywodraethu gwybodaeth, sy'n darparu ar gyfer—

i

cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

ii

cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw; ac

g

rhaglen safonau mangre sy'n cynnwys—

i

system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fferyllfa, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau lleihau, mewn ffordd gymesur, y risg i bobl yn y fferyllfa o'u heintio drwy gael gofal iechyd, a

ii

trefniadau ar gyfer gwahanu'n eglur rhwng y mannau mewn fferyllfa sy'n amgylchedd gofal iechyd priodol (lle mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) a'r mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.