xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CTelerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau

RHAN 4LL+CLlywodraethu Clinigol a Chwynion

CymhellionLL+C

29.—(1Rhaid i fferyllydd GIG a'i staff beidio â rhoi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elw'r busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu rywfodd arall) fel cymhelliad i'r person arall gyflwyno archeb am gyffuriau neu gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu'n gydnabyddiaeth am i'r person arall wneud hynny.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu cymorth cydymffurfio neu wasanaeth danfon gartref yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Yn achos darparu cyfarpar, ni chaniateir i fferyllydd GIG nac unrhyw berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen ganddo dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn perthynas, yn unig, ag—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG amgen yn unol â pharagraff 10(2)(b), 11(4) neu 19(2)(b); neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG arall yn unol â pharagraff 10(2)(a) neu 19(2)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â'r eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 29 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)