Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 6LL+CTelerau gwasanaethu ar gyfer meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol

Personau a awdurdodir yn briodol i weinyddu ar ran meddygon fferyllolLL+C

3.  Pan fo'r Atodlen hon yn gosod gofyniad ar feddyg fferyllol mewn perthynas â gweithgaredd y mae'r meddyg hwnnw wedi awdurdodi person arall i ymgymryd ag ef, os yw'r person arall hwnnw'n ymgymryd â'r gweithgaredd hwnnw yn lle'r meddyg fferyllol—

(a)rhaid i'r person arall hwnnw gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw; a

(b)rhaid i'r meddyg fferyllol hwnnw sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofyniad gan y person arall hwnnw,

ac mae cyfeiriadau at feddyg fferyllol yn yr Atodlen hon i'w dehongli'n unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)