2014 No. 1132 (Cy. 111)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 19(2), (3) ac (8), 20(2), (3) a (4A), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(1), a thrwy arfer eu pwerau yn adrannau 6, 10, 11, 12, 13, 14, 18 a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: