RHAN 14DIWYGIADAU I REOLIADAU

Diwygiadau i Reoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 201292

1

Mae Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 201244 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(1)—

a

yn y diffiniad o “y Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir” yn lle “Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010” rhodder “Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014”;

b

yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

  • “ystyr “cyfnod pontio’r ffederasiwn (“federation transition period”) yw’r cyfnod o amser ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i fynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffederasiwn o dan reoliadau 7(1), 10(2), neu 12(2) o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 ond cyn y dyddiad ffedereiddio;”;

  • mae “ffederasiwn” (“federation”) ac “ysgol ffederal” (“federated school”) i’w dehongli yn unol ag adran 21 o Fesur Addysg (Cymru) 201145;”.

3

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (1) yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5) pan”;

b

yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yn lle “reoliad 59” rhodder “reoliad 62”;

c

ym mharagraff (4) yn lle “rheoliadau 59 i 61” rhodder “rheoliadau 62 i 64”; a

d

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

5

Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal cyrff llywodraethu ysgolion sy’n bwriadu ffedereiddio rhag ffurfio panel dewis ar y cyd.

4

Yn rheoliad 7(2) yn lle “32 o’r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 12” rhodder “35 o’r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 13”.

Diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 201393

1

Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 201346 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer y diffiniad o Reoliadau 2010;

b

yn y man priodol mewnosoder—

  • “ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014;”;

c

yn y diffiniad o “cadeirydd corff llywodraethu” yn lle “reoliad 47 o Reoliadau 2010” rhodder “reoliad 50 o Reoliadau 2014”;

d

yn y diffiniad o “llywodraethwr” yn lle “2010” rhodder “2014”;

3

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (4)(b) yn lle “reoliad 38 o Reoliadau 2010” rhodder “reoliad 41 o Reoliadau 2014”;

b

ym mharagraff (5) yn lle “2010” rhodder “2014”; ac

c

ym mharagraff (6) yn lle “32 o Reoliadau 2010” rhodder “35 o Reoliadau 2014”.

4

Yn rheoliad 5—

a

ym mharagraff (4)(b) yn lle “reoliad 38 o Reoliadau 2010” rhodder “reoliad 41 o Reoliadau 2014”.

b

ym mharagraff (5) yn lle “2010” rhodder “2014”; ac

c

ym mharagraff (6) yn lle “32 o Reoliadau 2010” rhodder “35 o Reoliadau 2014”.

5

Hepgorer rheoliad 7.

Diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 201394

1

Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 201347 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer y diffiniad o Reoliadau 2010; a

b

yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014;

3

Yn rheoliad 3(1)(b) yn lle “50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010” rhodder “53 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 54 o Reoliadau 2014”.

4

Yn rheoliad 4—

a

yn is-baragraff (c) o baragraff (1) yn lle “50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010” rhodder “53 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 54 o Reoliadau 2014”;

b

yn lle is-baragraff (d) o baragraff (1) rhodder—

d

yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 70(1) i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 70(5) mewn cysylltiad â phwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 67 i 69 o Reoliadau 2014; neu

c

yn is-baragraff (c) o baragraff (3) yn lle “50 o Reoliadau 2010” rhodder “53 o Reoliadau 2014”.