RHAN 2SEFYDLU NEU YMUNO Â FFEDERASIWN

Cyffredinol4

1

Caiff ffederasiwn gynnwys o leiaf ddwy ond dim mwy na chwech o’r canlynol—

a

ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir13 (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol);

b

ysgolion sefydledig14 (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol); neu

c

ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir15 (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol).

2

Mae rheoliadau 5 i 7 yn gymwys pan fo cyrff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio yn unol ag adran 10 o Fesur 2011.

3

Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fwriedir sefydlu ysgol newydd a phan fo naill ai—

a

y corff llywodraethu dros dro yn dymuno ffedereiddio ag un neu ragor o gyrff llywodraethu; neu

b

yr awdurdod lleol neu, yn achos ysgol sydd i fod yn ysgol sefydledig neu wirfoddol ac y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer ei sefydlu gan hyrwyddwyr, yr hyrwyddwyr yn cynnig y dylai’r ysgol fod yn ysgol ffederal.

4

Mae rheoliadau 9 a 10 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer i ffedereiddio ysgolion yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

5

Mae rheoliadau 11 a 12 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer i ffedereiddio ysgolion bach yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

Gweithdrefn ar gyfer ffedereiddio – a gynigir gan gorff llywodraethu5

1

Pan fo corff llywodraethu yn ystyried ffedereiddio, rhaid iddo yn gyntaf ystyried adroddiad ar y cynnig.

2

Rhaid i’r adroddiad gael ei bennu yn eitem ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod y rhoddir hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 57(4).

3

Pan fo corff llywodraethu yn cynnig y dylai ffedereiddio â chorff llywodraethu ffederasiwn, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

4

Wedi iddo dderbyn yr hysbysiad, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn ystyried a ddylai—

a

rhoi ei gydsyniad rhagarweiniol i’r corff llywodraethu ymuno â’r ffederasiwn; neu

b

penderfynu na ddylai’r corff llywodraethu ymuno â’r ffederasiwn.

Cyhoeddi cynigion – a gynigir gan gorff llywodraethu6

1

Pan fo corff llywodraethu yn penderfynu y dylai ffedereiddio ag un neu ragor o gyrff llywodraethu eraill, a chydsyniad rhagarweiniol, pan fo’i angen, yn unol â rheoliad 5(4)(a), wedi ei roi, rhaid iddo, ar y cyd â’r corff neu gyrff llywodraethu eraill, gyhoeddi cynigion ar gyfer ffedereiddio.

2

Rhaid i’r cynigion gynnwys y canlynol—

a

enw neu enwau’r corff neu gyrff llywodraethu y mae’r corff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio â hwy, a chadarnhad bod y corff neu gyrff llywodraethu hynny wedi penderfynu yn yr un modd i ffedereiddio;

b

maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;

c

y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

d

y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

e

y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

f

enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

g

erbyn pa ddyddiad, ar ôl cyfnod o ddim llai na chwe wythnos ar ôl cyhoeddi’r cynigion, y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r corff llywodraethu ynglŷn â’r cynigion, ac i ba gyfeiriad y dylid eu hanfon; a

h

unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y cyrff llywodraethu.

3

Rhaid i’r cyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at—

a

yr awdurdodau lleol perthnasol;

b

pennaeth pob un o’r ysgolion;

c

cyngor ysgol pob un o’r ysgolion;

d

yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

i

y llywodraethwyr sefydledig; a

ii

unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

e

pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath;

f

yr holl staff y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion;

g

pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn unrhyw un o’r ysgolion;

h

pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

i

unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan y cyrff llywodraethu.

4

Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arnynt ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.

5

Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (2)(e) beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol â pharagraff (1).

Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – a gynigir gan gorff llywodraethu7

1

Rhaid i’r cyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio ystyried ar y cyd unrhyw ymatebion i’r cynigion, a rhaid i bob corff llywodraethu benderfynu naill ai—

a

mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;

b

mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gyda pha addasiadau bynnag a ystyrir yn briodol gan y corff llywodraethu; neu

c

peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

2

Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio.

3

Rhaid i’r holl gyrff llywodraethu sydd wedi penderfynu mynd ymlaen hysbysu, ar y cyd, yr awdurdod lleol neu’r awdurdodau lleol perthnasol o’r ffaith honno.

Ysgolion newydd sy’n dymuno ffedereiddio8

1

Pan gynigir bod ysgol newydd yn ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion neu â ffederasiwn, mae paragraff (2) neu (3) yn gymwys fel y bo’n briodol.

2

Pan fo corff llywodraethu dros dro wedi ei sefydlu, mae rheoliadau 5 i 7 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at gorff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu dros dro sy’n bwriadu ffedereiddio.

3

Pan na fo corff llywodraethu dros dro eto wedi ei sefydlu, mae rheoliadau 5 i 7 yn cael effaith fel pe bai—

a

cyfeiriadau at gorff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol neu, pan fo’r cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wirfoddol, ac y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer ei sefydlu gan hyrwyddwyr, yr hyrwyddwyr;

b

rheoliad 5(2) wedi ei hepgor; ac

c

yn rheoliad 6(2)(a), y geiriau “y mae’r awdurdod lleol neu’r hyrwyddwyr yn cynnig y dylai corff llywodraethu dros dro yr ysgol newydd ffedereiddio â hwy” wedi eu gosod yn lle “y mae’r corff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio â hwy”.

4

Mae Rhannau 1 i 3 a 5 i 7 o’r Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir i fod yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â’r rheoliad hwn.

5

Pan gynigir y dylai dwy neu ragor o ysgolion newydd ffedereiddio, gyda neu heb un neu ragor o ysgolion eraill neu ffederasiwn arall, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.

6

Pan fo’r ffederasiwn a gynigir yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i’r awdurdodau lleol hynny gytuno ymysg ei gilydd, pa awdurdod lleol gaiff wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.

7

Pan fo un neu ragor o’r ysgolion newydd y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod yn ysgol wirfoddol, y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer eu sefydlu gan hyrwyddwyr, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r hyrwyddwyr ynglŷn ag—

a

a ddylid arfer y pŵer a roddir i’r awdurdod lleol ym mharagraff (2); a

b

os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ar ba ddyddiad y dylid gwneud y trefniadau.

8

Mae Atodlen 1 yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â’r rheoliad hwn.

Gweithdrefn ar gyfer ffedereiddio – a gynigir gan awdurdod lleol9

1

Pan fo awdurdod lleol yn gwneud cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 nad yw’n ymwneud â ffedereiddio ysgolion bach yn unig, rhaid i’r cynigion a gyhoeddir gynnwys y canlynol—

a

enw neu enwau’r corff neu gyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio;

b

maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;

c

y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

d

y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

e

y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

f

enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

g

erbyn pa ddyddiad, ar ôl cyfnod o ddim llai na chwe wythnos ar ôl cyhoeddi’r cynigion, y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod lleol ynglŷn â’r cynigion, ac i ba gyfeiriad y dylid eu hanfon;

h

yn achos cynnig ar gyfer ffedereiddio sy’n cynnwys ysgol a gynhelir nas cynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cynnig, gadarnhad bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw wedi rhoi ei gydsyniad;

i

yn achos cynnig sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol, gadarnhad bod yr awdurdod esgobaethol priodol neu’r person neu’r personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig (yn ôl y digwydd) wedi rhoi cydsyniad; a

j

unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at—

a

unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

b

pennaeth pob un o’r ysgolion;

c

cyngor ysgol pob un o’r ysgolion;

d

yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

i

y llywodraethwyr sefydledig; a

ii

unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

e

pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath;

f

yr holl staff y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion;

g

pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn unrhyw un o’r ysgolion;

h

pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

i

unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

3

Rhaid cyhoeddi copi o’r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol.

4

Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arnynt ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.

5

Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (1)(e) beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – a gynigir gan awdurdod lleol10

1

Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw ymatebion i’r cynigion a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ynghyd â sylwadau’r awdurdod lleol ar wefan yr awdurdod lleol.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu naill ai—

a

mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;

b

mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gydag unrhyw addasiadau a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol; neu

c

peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

3

Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio.

4

Rhaid cyhoeddi unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) ar wefan yr awdurdod lleol a rhaid anfon copi ohono at—

a

unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

b

pennaeth pob un o’r ysgolion;

c

yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

i

y llywodraethwyr sefydledig; a

ii

unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

d

pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath; ac

e

unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

Y weithdrefn ar gyfer ffedereiddio – ysgolion bach11

1

Pan fo awdurdod lleol yn gwneud cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 sy’n ymwneud â ffedereiddio ysgolion bach yn unig, rhaid i’r cynigion a gyhoeddir gynnwys y canlynol—

a

enw neu enwau’r corff neu’r cyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio;

b

maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;

c

y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

d

y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

e

y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

f

enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

g

yn achos cynnig ar gyfer ffedereiddio sy’n cynnwys ysgol a gynhelir nas cynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cynnig, gadarnhad bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw wedi rhoi ei gydsyniad;

h

yn achos cynnig sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol, gadarnhad bod yr awdurdod esgobaethol priodol neu’r person neu’r personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig (yn ôl y digwydd) wedi rhoi cydsyniad; ac

i

unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at gorff llywodraethu a chyngor ysgol pob un o’r ysgolion bach y mae’n bwriadu eu ffedereiddio gan wahodd y corff llywodraethu i ymateb o fewn 20 niwrnod ysgol.

3

Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd anfon copïau o’r cynigion at—

a

unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

b

pennaeth pob un o’r ysgolion;

c

yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

i

y llywodraethwyr sefydledig; a

ii

unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol; a

d

pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath.

4

Rhaid cyhoeddi copi o’r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol.

5

Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arno ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.

6

Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (1)(e) beidio â bod yn llai na 100 niwrnod ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – ysgolion bach12

1

Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw ymatebion i’r cynigion a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ynghyd â sylwadau’r awdurdod lleol ar wefan yr awdurdod lleol.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu naill ai—

a

mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;

b

mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gyda pha addasiadau bynnag a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol; neu

c

peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

3

Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio.

4

Rhaid cyhoeddi unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) ar wefan yr awdurdod lleol a rhaid anfon copi ohono at—

a

unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

b

pennaeth pob un o’r ysgolion;

c

yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

i

y llywodraethwyr sefydledig; a

ii

unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

d

pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath; ac

e

unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

Ymgorffori cyrff llywodraethu ffederasiynau a diddymu cyrff llywodraethu blaenorol13

1

Ar y dyddiad ffedereiddio—

a

diddymir cyrff llywodraethu’r ysgolion neu’r ffederasiynau sy’n ffedereiddio;

b

ymgorfforir corff llywodraethu’r ffederasiwn;

c

mae’r holl dir ac eiddo, a ddelid yn union cyn y dyddiad ffedereiddio gan gorff llywodraethu ysgol neu ffederasiwn sy’n ffedereiddio, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu’r ffederasiwn, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael eu breinio yng nghorff llywodraethu’r ffederasiwn; a

d

mae’r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad ffedereiddio ac a gaffaelwyd neu yr eir iddynt gan gorff llywodraethu ysgol neu ffederasiwn sy’n ffedereiddio yn trosglwyddo i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

2

Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 198816 (sydd, ynghyd ag Atodlen 10 i’r Ddeddf honno, yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â throsglwyddiadau eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae’r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.