RHAN 7PENODI SWYDDOGION, EU SWYDDOGAETHAU A’U DISWYDDO
Ethol y cadeirydd a’r is-gadeirydd50
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adrannau 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol) a 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 2013, rhaid i’r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.
2
Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal neu sy’n ddisgybl mewn ysgol ffederal yn gymwys i fod yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd corff llywodraethu’r ffederasiwn dan sylw.
3
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd olynydd y person hwnnw wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).
4
Caiff y cadeirydd neu’r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
5
Daw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd i ben—
a
pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r corff llywodraethu;
b
os telir i’r person hwnnw am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal dan sylw;
c
os diswyddir y person hwnnw yn unol â rheoliad 52 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebir gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 6 o Ddeddf 2013 neu Weinidogion Cymru yn unol ag adran 13 o Ddeddf 2013; neu
d
yn achos yr is-gadeirydd, os etholir y person hwnnw yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.
6
Pan ddaw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn wag, rhaid i’r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o’i aelodau i lenwi’r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 6 neu 13 o Ddeddf 2013.
7
Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.
8
Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.
9
Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o’r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i’r corff llywodraethu ethol un o’i aelodau i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
10
Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.
Dirprwyo swyddogaethau i’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd mewn achosion brys51
1
Caiff y cadeirydd, pan fo’r amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys ym marn y person hwnnw, arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo’r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 62(1).
2
Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—
a
y ffederasiwn neu ysgol ffederal;
b
unrhyw ddisgybl mewn ysgol ffederal, neu riant y disgybl hwnnw; neu
c
person sy’n gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.
3
Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy’n ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad cynharaf y byddai’n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o’r corff llywodraethu, neu gyfarfod o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.
4
Pan ymddengys i’r is-gadeirydd—
a
bod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys; a
b
na fyddai’r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i’r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd;
rhaid darllen y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai’n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.
Diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd52
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo’r cadeirydd, onid enwebwyd y person hwnnw gan yr awdurdod lleol o dan adran 6 o Ddeddf 2013 neu Weinidogion Cymru yn unol ag adran 13 o Ddeddf 2013.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo’r is-gadeirydd.
3
Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn cael effaith oni fo’r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 57.
4
Cyn i’r corff llywodraethu benderfynu diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd, rhaid i’r llywodraethwr sy’n cynnig diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd (yn ôl y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o’r cyfarfod.
Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu53
1
Ni fydd y rheoliad hwn yn rhagfarnu ar unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â’r corff llywodraethu neu â’r awdurdod lleol.
2
Rhaid i’r corff llywodraethu benodi clerc i’r corff llywodraethu.
3
Rhaid i glerc y corff llywodraethu beidio â bod—
a
yn llywodraethwr;
b
yn aelod nad yw’n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau’r corff llywodraethu; nac
c
yn bennaeth y ffederasiwn neu’n bennaeth ysgol ffederal.
4
Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os yw’r clerc yn methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod, benodi unrhyw un o blith ei aelodau (ond nid pennaeth y ffederasiwn na phennaeth ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
5
Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.
6
Os nad oes gan yr un ysgol ffederal, ar unrhyw adeg, gyllideb ddirprwyedig23, caiff yr awdurdod lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi un yn ei le, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â’r corff llywodraethu cyn gweithredu felly.
Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu54
1
Rhaid i glerc y corff llywodraethu—
a
gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 57;
b
bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau y cynhyrchir cofnodion o’r trafodion yn unol â rheoliad 59;
c
cadw cofrestr o aelodau’r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;
d
cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;
e
rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 32 (hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 37 (ymddiswyddo), 38 (diswyddo llywodraethwyr), 50(4) (ymddiswyddiad y cadeirydd neu’r is-gadeirydd) a 57(4) (cynnull cyfarfodydd) o’r Rheoliadau hyn, a pharagraff 14 o Atodlen 7 (hysbysiad o anghymhwyso) i’r Rheoliadau hyn;
f
adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy’n ofynnol ar gyflawni swyddogaethau’r person hwnnw; ac
g
cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i’w gilydd.
2
Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor i’r corff llywodraethu ynglŷn â’i swyddogaethau a’i weithdrefnau.