ATODLEN 1Cyrff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion newydd sy’n bwriadu ffedereiddio

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir newydd6

1

Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a reolir arfaethedig yn unig, i’w gyfansoddi fel a ganlyn—

a

ar gyfer pob un o’r ysgolion arfaethedig, o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy’n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

b

o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

c

o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

d

o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

e

o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol dros dro; ac

f

o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig dros dro.

2

Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—

a

pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

b

(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.