ATODLEN 4Penodi llywodraethwyr partneriaeth
1.
Pan fo’n ofynnol penodi llywodraethwr partneriaeth—
(a)
rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion yn y ffederasiwn nad oes ganddynt sefydliad a chan y cyfryw bersonau eraill y tybia’n briodol yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; a
(b)
caiff corff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion eraill yn y ffederasiwn fel y tybia’n briodol.
2.
Ni chaiff unrhyw berson enwebu i’w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai’r person hwnnw’n gymwys i’w benodi gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn yn llywodraethwr cymunedol.
3.
Yn ddarostyngedig i baragraff 4(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i’w benodi’n llywodraethwr partneriaeth.
4.
(1)
Rhaid i’r corff llywodraethu benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy’n ofynnol yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.
(2)
Os yw’r nifer o enwebeion cymwys yn llai na’r nifer o leoedd gwag, caniateir cwblhau’r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy’n ofynnol â phersonau a ddetholir gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.
5.
(1)
Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn gwneud penodiad o dan baragraff 4(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i’r awdurdod lleol ac i’r person a wrthodwyd.
(2)
Pan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ragor nag un awdurdod lleol rhaid dehongli’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at awdurdod lleol fel cyfeiriad at bob un o’r awdurdodau lleol.
6.
Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â’u henwebu a’u penodi.