ATODLEN 5Penodi noddwr-lywodraethwyr

Rheoliad 22

1

Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas â ffederasiwn yw—

a

person sy’n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn nwyddau) i’r ffederasiwn neu i ysgol ffederal, ac eithrio cymorth a roddir yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu

b

unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar gorff llywodraethu’r ffederasiwn) sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i’r ffederasiwn neu i’r ysgol ffederal.

2

Pan fo gan y ffederasiwn un neu ragor o noddwyr, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benderfynu bod yr offeryn llywodraethu i ddarparu y caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi nifer o noddwr-lywodraethwyr, na fydd yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.

3

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o’r fath gan noddwr y ffederasiwn neu noddwr ysgol ffederal neu (yn ôl y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o noddwyr y ffederasiwn neu noddwyr ysgol ffederal.