RHAN 4CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU FFEDERASIWN
Ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir yn unig26
1
Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir18 (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) i gynnwys y canlynol—
a
o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
b
o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
c
o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
d
o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;
e
yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac
f
un llywodraethwr cynrychiadol pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un llywodraethwr cymunedol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (e).
2
Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
a
pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
b
(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
3
Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—
a
penodi un noddwr-lywodraethwr; a
b
penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.