26.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir(1) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) i gynnwys y canlynol—
(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac
(f)un llywodraethwr cynrychiadol pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un llywodraethwr cymunedol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (e).
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
(3) Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—
(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a
(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.
O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ac adran 39(1) o Ddeddf 2002.