RHAN 6OFFERYN LLYWODRAETHU, STAFFIO, CYNGHORAU YSGOL A STATWS ELUSENNOL

Y ddyletswydd i ystyried canllawiau42

Mewn cysylltiad â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt, eu ffurf, ac adolygu ac amrywio’r cyfryw offerynnau, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.