43.—(1) Rhaid i offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn nodi—
(a)enw’r ffederasiwn;
(b)enwau a chategorïau’r ysgolion ffederal o fewn y ffederasiwn;
(c)enw corff llywodraethu’r ffederasiwn;
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y modd y cyfansoddir y corff llywodraethu yn unol â Rhan 4, gan bennu—
(i)nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr;
(ii)y categorïau o bersonau, o’u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a
(iii)cyfanswm nifer aelodau’r corff llywodraethu;
(e)os yw cyfnod swydd unrhyw gategori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;
(f)os oes gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig—
(i)enw unrhyw berson sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr o’r fath ac, os oes mwy nag un person o’r fath â’r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o’r fath;
(ii)manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i’w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir; a
(iii)enw unrhyw berson sydd â’r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;
(g)os yw’r ffederasiwn yn cynnwys ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â’r hawl i enwebu person i’w benodi yn llywodraethwr cynrychioladol o dan Atodlen 6;
(h)os oes ymddiriedolaeth yn gysylltiedig ag ysgol ffederal, y ffaith honno;
(i)os yw ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy’n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad unigol o ethos crefyddol pob ysgol o’r fath; a
(j)y dyddiad y daw’r offeryn llywodraethu i rym.
(2) Rhaid i’r modd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y’i nodir yn unol ag is-baragraff (1)(d), gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i’r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig ag ysgol ffederal.
(4) Nid yw is-baragraffau (d) a (e) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.