57.—(1) Rhaid i’r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.
(2) Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac wrth arfer y swyddogaeth hon, heb ragfarnu paragraff (3), rhaid i’r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(a)y corff llywodraethu; neu
(b)y cadeirydd, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).
(3) Caiff unrhyw dri aelod o’r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r clerc sy’n cynnwys crynodeb o’r busnes sydd i’w drafod; a rhaid i’r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i’r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—
(a)pob llywodraethwr;
(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); ac
(c)yr awdurdod lleol.
(5) Pan fo’r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, y copi o’r agenda, yr adroddiadau a’r papurau eraill sydd i’w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd y person hwnnw.
(6) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—
(a)diswyddo’r cadeirydd neu is-gadeirydd;
(b)atal unrhyw lywodraethwr;
(c)diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr; neu
(d)penderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 80 o Ddeddf 2013;
i gael ei ystyried.
(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys—
(a)rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a
(b)nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.
(8) Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau’r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.
(9) Ni fydd cyfarfod o’r corff llywodraethu a’i drafodion yn cael eu hannilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod neu gopi o’r agenda.