64.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo’r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i’r canlynol neu’n arferadwy fel arall gan y canlynol—
(a)llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu’r is-gadeirydd);
(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu
(c)pwyllgor.
(2) Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaeth honno.