RHAN 9PWYLLGORAU CYRFF LLYWODRAETHU

Y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion68.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni’r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion)37.

(2)

Rhaid i’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt.

(3)

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o’r pwyllgor.

(4)

Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion) mewn achos—

(a)

pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai’r disgybl hwnnw, o ganlyniad i’r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

(b)

pan fo’n ymddangos i’r cadeirydd na fyddai’n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o’r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o’r fath cyn y deuai’r amser i’r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.