Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

Cyfarfodydd pwyllgorau

72.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnull gan glerc y pwyllgor hwnnw ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth honno, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu;

(b)cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(2Oni phenodwyd clerc, rhaid i’r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i’r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw, i bob aelod o’r pwyllgor ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r pwyllgor ai peidio)—

(a)hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod;

(b)copi o agenda’r cyfarfod; ac

(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod;

ond bydd yn ddigon, pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, yr agenda, a’r adroddiadau neu’r papurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd neu benderfyniad y person hwnnw (yn ôl y digwydd).

(4Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na

(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o’r pwyllgor.

(5Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(6), 68(3) a 69(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (8), ni chaniateir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(7Rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(8Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.