Argaeledd symiau sy’n cynrychioli cyfran o gyllideb
82. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro ysgol sy’n gadael ffederasiwn wario, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno, unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o’r Ddeddf honno(1) i gorff llywodraethu’r ffederasiwn mewn cysylltiad â’r ysgol sy’n gadael y ffederasiwn.
(1)
Fel y’i haddaswyd gan reoliad 75 o’r Rheoliadau hyn.