RHAN 13DIDDYMU FFEDERASIYNAU

Argaeledd symiau sy’n cynrychioli cyfran o gyllideb89

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro pob un o’r ysgolion wario unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o’r Ddeddf honno42 i gorff llywodraethu’r ffederasiwn mewn cysylltiad â phob ysgol, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno.