2014 Rhif 1212 (Cy. 128)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 i’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 80(4), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20002, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(1) ac (8), 39(2)(a), 42(2)(a), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3), 57(9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 20053 a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 a pharagraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 19992

Yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 19994 yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

b

in all other cases at least once within a six year period beginning on 1 September 2014 and ending on 31 August 2020 and at least once within every subsequent six year period beginning on the expiry of the previous six year period.

Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 20013

1

Mae Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 20015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

b

ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.

3

Yn rheoliad 4 yn lle “50” rhodder “20”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20064

1

Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20066 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—

b

ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.

3

Ym mharagraff (c) o reoliad 8 hepgorer “o leiaf dair wythnos ymlaen llaw”.

4

Ym mharagraff (1) o reoliad 10 yn lle “ddeugain a phump” rhodder “20”.

5

Yn lle rheoliad 14 rhodder—

14Cyfnodau rhwng arolygiadau

Pan fo’n ofynnol gan adran 50(1) i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sicrhau bod addysg enwadol a roddir i unrhyw ddisgybl a chynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgol yn cael eu harolygu, rhaid iddo sicrhau bod yr arolygiad yn cael ei gynnal—

a

yn achos ysgol nad oedd wedi’i harolygu o’r blaen, o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i’r ysgol; a

b

ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.

6

Ym mharagraff (4) o reoliad 16 yn lle “ddeugain a phump” rhodder “20”.

Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 20065

1

Mae Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 20067 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder—

1

Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.

3

Yn rheoliad 7, yn lle “hanner cant” rhodder “20”.

Carwyn JonesPrif Weinidog Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

a

Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999,

b

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,

c

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, a

d

Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,

er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru/Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales (“y Prif Arolygydd”) sicrhau bod arolygiadau’n cael eu cynnal o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014. Bydd y diwygiadau yn rhoi mwy o le i’r Prif Arolygydd amrywio’r dyddiad y caiff ysgol neu sefydliad addysg ei arolygu er mwyn gwneud arolygiadau yn llai rhagweladwy. Bydd hyn yn caniatáu i’r Prif Arolygydd arolygu’r ysgolion hynny a all fod yn achosi pryder yn fwy aml. Mewn cyferbyniad os nad oes achos pryder o’r fath caniateir i’r ysgol gael ei harolygu’n llai aml.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach—

a

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,

b

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, ac

c

Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,

er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r cynllun gweithredu ar ôl arolygiad gael ei lunio o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad y daw’r adroddiad arolygu i law’r awdurdod priodol ar gyfer yr ysgol (y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol), neu’r perchennog (yn ôl y digwydd).

Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgol roi o leiaf dair wythnos o rybudd am gyfarfod rhieni a gynhelir yn unol â’i dyletswydd ym mharagraff 6(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2005. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad bod rhaid rhoi rhybudd o leiaf dair wythnos ymlaen llaw.