Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014

Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

5.—(1Mae Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder—

(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben..

(3Yn rheoliad 7, yn lle “hanner cant” rhodder “20”.

(1)

O.S. 2006/3103 (Cy. 286) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)).