Darpariaethau darfodol: adfer meddiant tai annedd3
1
2
Hyd nes i adrannau 94 i 97 o Ddeddf 2014 (seiliau absoliwt dros feddiant) ddod i rym yng Nghymru, mae Deddf Tai 1985 i’w darllen—
a
yn adran 138 (dyletswydd landlord i drawsgludo rhydd-ddaliad neu i roi prydles)4—
i
yn is-adran (2A)(a) fel pe bai’r geiriau “or section 84A possession order” wedi eu hepgor;
ii
yn is-adran (2B)(a) fel pe bai’r geiriau “or an operative section 84A possession order” wedi eu hepgor; a
iii
yn is-adran (2C) fel pe bai’r diffiniadau o “operative section 84A possession order” a “section 84A possession order” wedi eu hepgor;
b
yn Atodlen 1 (tenantiaethau nad ydynt yn denantiaethau diogel)5, ym mharagraff 4ZA(12) (tenantiaethau ymyriad teuluol) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “relevant possession order”—
“relevant possession order” means a possession order under section 84 that is made on ground 2, 2ZA or 2A of Part 1 of Schedule 2;
3
Hyd nes i adrannau 94 i 97 o Ddeddf 2014 (seiliau absoliwt dros feddiant) ddod i rym yng Nghymru, yn Atodlen 1 i Ddeddf Tai Act 1988 (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr)6, mae paragraff 12ZA(3)(a)(i) (tenantiaethau ymyriad teuluol) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “ground 7A of Part 1 of Schedule 2 or” wedi eu hepgor.