NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, o dan adran 54A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae’r adran honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n gohirio’r dyddiad y dylai’r rhestrau ardrethu annomestig newydd (h.y. y rhestrau lleol a’r rhestr ganolog) yng Nghymru gael eu gwneud, o 1 Ebrill 2015 i 1 Ebrill yn 2016, 2017, 2018, 2019 neu 2020. Mae’r adran honno hefyd yn sicrhau ei bod yn ofynnol wedyn gwneud rhestrau newydd bob pum mlynedd wedi hynny.

Y dyddiad a bennwyd yn y Gorchymyn ar gyfer gwneud y rhestrau yw 1 Ebrill 2017.