Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014

Diwygiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006LL+C

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”);

(b)hepgorer y diffiniad o “rheolwr cyngor” (“council manager”);

(c)hepgorer “ac” ar ôl y diffiniad o “swyddog monitro” (“monitoring officer”); a

(d)yn y mannau priodol mewnosoder—

(i)“ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd)(1);”; a

(ii)“mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(2);”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 1.7.2014, gweler rhl. 1(2)