10.—(1) Yn rheoliad 101, yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.”
(2) Yn rheoliad 101, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”