Cytundebau presennol: Hysbysiad o’r bwriad i werthu4

1

Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 10(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6).

2

Ym mhob achos mae’r wybodaeth yn cynnwys—

a

enw’r meddiannydd arfaethedig;

b

eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac

c

ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.

3

Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—

a

bod y meddiannydd wedi darparu copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a

b

bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a bod y meddiannydd arfaethedig yn gallu cydymffurfio â hwy.

4

Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran y meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.

5

Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, frîd y ci).

6

Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu parcio ar y safle.

7

Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.