Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014

Cytundebau presennol: Hysbysiad o’r bwriad i werthu

4.—(1Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 10(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6).

(2Ym mhob achos mae’r wybodaeth yn cynnwys—

(a)enw’r meddiannydd arfaethedig;

(b)eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac

(c)ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.

(3Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—

(a)bod y meddiannydd wedi darparu copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a

(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a bod y meddiannydd arfaethedig yn gallu cydymffurfio â hwy.

(4Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran y meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.

(5Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, frîd y ci).

(6Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu parcio ar y safle.

(7Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.